Diweddariad Covid ac Addysgu Padarn Sant
Oherwydd sefyllfa bresennol Covid, rydym wedi gwneud y penderfyniad na fydd unrhyw addysgu preswyl yn digwydd ym Mhadarn Sant Caerdydd tan 1 Gorffennaf 2021. Nid yw’n bosib cynnal addysgu preswyl yn ddiogel ar y safle oherwydd y gofod sydd ar gael ar y safle. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn bod safle Padarn Sant hefyd yn gartref ac yn lle gwaith i rai, ac mae rhaid cadw'r unigolion hynny’n ddiogel. Mae lles a diogelwch dysgwyr a staff yn bwysig iawn i ni.
Rydym yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru yn agos a lle mai amgylchiadau yn caniatáu bydd addysgu preswyl cyfyngedig yn medru digwydd. Os ydych yn ddysgwr ar un o’n rhaglenni yna cysylltwch ag arweinydd eich rhaglen am fwy o fanylion ar sut gyflwynir eich rhaglen chi.
Mae hyfforddiant Diogelu yn flaenoriaeth ac mae’n parhau i gael ei addysgu drwy gyfrwng Zoom, ewch at ein tudalen Hyfforddiant Diogelu am fwy o fanylion
Os ydy digwyddiadau addysgu yn medru digwydd yn ddiogel wyneb yn wyneb mi fyddant yn gwneud hynny. Os and yw’n bosib byddant yn cael eu cynnal mewn ffurf electronig. Byddwn yn asesu bob digwyddiad / rhaglen addysgu yn unigol er mwyn ystyried y ffordd orau o gyflwyno nhw yn nhymor yr Hydref.
Ar hyn o bryd does dim mynediad i ddysgwyr i’r prif adeilad, capel nag adeilad y llyfrgell. Serch hyn, nid yw Athrofa Padarn Sant ar gau. Gallwch gysylltu â ni ar ein prif rif ffôn, cyfeiriad e-bost neu drwy ein ffurflen cysylltu ar ein gwefan fan hyn
Gallwch dal i gael mynediad at adnoddau’r llyfrgell, ac mae croeso i chi gysylltu ag Anna yn y llyfrgell a fydd yn medru eich helpu gyda’r adnoddau ar-lein cynyddol sydd ar gael i chi. Mi fydd hefyd yn medru ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Mae’n gyfnod anodd, ac er bydd eich profiad o Badarn Sant ychydig yn wahanol dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio’n galed i gefnogi eich dysgu a’ch hyfforddiant.