Gwaith Arloesol

Mae Athrofa Padarn Sant yn cefnogi datblygiad y Weinidogaeth Arloesol o fewn yr Eglwys yng Nghymru mewn nifer o ffyrdd:
Hyfforddiant ar gyfer y Weinidogaeth Arloesol
Mae Athrofa Padarn Sant yn cynnig ffrwd hyfforddiant Arloesol sy’n darparu hyfforddiant arbenigol i’r rheiny sy’n bwriadu fod yn Weinidogion Arloesol Ordeiniedig neu’n Weinigion Lleyg Arloesol. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys y sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer y math hwn o weinidogaeth, gan gynnwys y sgil o wrando ar gymunedau i ddatblygu ffurfiau newydd o eglwys. Mae’r ffrwd Arloesi yn cynnwys cyfraniad gan ymarferwyr Arloesol a meddylwyr o Gymru ac yn ehangach yn y Ddeyrnas Unedig, ac mae’n lle ar gyfer trafod datblygiad diwynydddiaeth myfyriol ac ymarfer dyfeisgar yn y maes.
Hyfforddiant Arloesol ar gyfer oll
Yn ogystal â hyfforddi arbenigwyr Arloesol, mae Athrofa Padarn Sant hefyd yn frwd dros gynnig hyfforddiant Arloesol i’n myfyrwyr i gyd. Fe ddarperir hyn drwy ddau fodiwl cenhadu sy’n rhan o’r cwricwlwm craidd i bob un sy’n hyfforddi. Mae’r modiwlau hyn wedi eu hanelu at baratoi a galluogi pawb fydd yn mynd i’r weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Pwrpas hyn yw cael dealltwriaeth o Weinidogaeth Arloesol a sut i ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno’r eglwys yn eu hardaloedd Gweinidogaeth
Cefnogi Arloeswyr
Yn ogystal â hyfforddiant, mae Padarn Sant yn chwarae rhan allweddol mewn cefnogi Arloeswyr drwy gydol eu gweinidogaeth. Wrth drefnu cynadleddau i’r Weinidogaeth Arloesol, rydym yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio, rhannu profiadau a datblygu'n barhaus i Arloeswyr. Mwy na hynny, maent yn rhoi’r cyfle i Arloeswyr i dreulio amser gydag eraill sy’n meddwl yn debyg iddynt neu sy'n archwilio materion tebyg. Mae yna gymuned gynyddol o Arloeswyr o fewn yr Eglwys yng Nghymru, mae cefnogi a rhannu sgiliau gyda’r rhwydwaith yma yn allweddol felly, er mwyn datblygu’r maes. Yn ogystal â chefnogi'r Arloeswyr, rydym yn trefnu cyfleoedd i aelodau o’r timau Esgobaethol i ddod at ei gilydd i ddysgu a thrafod Gweinidogaeth Arloesol ac i feddwl sut y gallan nhw gefnogi’r math hwn o weinidogaeth. Drwy gynnal y cynadleddau a’r digwyddiadau yma mae Athrofa Padarn Sant yn chwarae rhan allweddol mewn codi ymwybyddiaeth ynghylch Gweinidogaeth Arloesol ac yn natblygiad diwylliant Arloesi o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
