Diweddariad Covid 2023

Gan ein bod ni bellach yn amgylchedd sefydlog o ran Covid mae’r ddogfen hwn yn amlinellu mesurau ar gyfer lleihau lledaeniad amrywiaeth o heintiau megis Covid a ffliw
Nid yw bellach yn ofynnol i brofi ar gyfer Covid, nac ynysu. Fodd bynnag os ydym yn sâl mae dyletswydd arnom i ystyried y rheiny rydym yn dod i gyswllt â hwy wrth fod ynghlwm â gweithgareddau ym Mhadarn Sant. Mae Athrofa Padarn Sant yn annog defnydd ‘synnwyr cyffredin’ ymysg staff, cyfranwyr a dysgwyr parthed cyswllt wyneb yn wyneb wrth fynychu gweithgareddau er mwyn ceisio osgoi salwch heintus.
Bydd Athrofa Padarn Sant yn sicrhau bod unrhyw safle mae’n defnyddio wedi ei lanhau yn drylwyr. Bydd hylif diheintio ar gael o amgylch ein safle yng Nghaerdydd.
Mae cadw pellter a dilyn patrwm glendid da yn parhau i fod yn allweddol er mwy lleihau lledaeniad haint. Argymhellir y canlynol:
- Golchi dwylo yn ofalus ac yn rheolaidd
- Osgoi cyswllt ag eraill am 48 awr yn dilyn salwch stumog
- Ystyried cadw pellter rhag eraill os ydych yn dioddef symptomau gallai fod yn heintus – ac osgoi cyswllt agos
- Aros i ffwrdd o unrhyw weithgaredd mewn person wrth ddioddef symptomau sydd yn debygol o fod yn heintus iawn- megis pesychu, tisian, brech (rash) neu gallai fod ynghlwm â chlefydau heintus megis y Dwymyn Goch (Scarlet Fever), symptomau Covid.
Os oes gan staff symptomau heintus iawn ond yn teimlo’n ddigon da i weithio, gallant weithio i adref. Os yw staff, cyfranwyr neu ddysgwyr yn rhy sâl i weithio, dylent ddilyn y broses berthnasol i adrodd absenoldeb neu salwch. O syn ansicr cysylltwch â’ch rheolwr/ tiwtor personol.