Hafan Amdanom ni Adnoddau Dysgu a Thechnoleg

Adnoddau Dysgu a Thechnoleg

Amdanom ni a’r ffordd rydyn ni’n gweithio: Dyfeisgar, Perthnasol, Craff

woman laptop_ (002).jpg

Mae’r meddylfryd ynghylch dysgu ac addysgu wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, bellach mae’n cynnwys gorgyffwrdd rhwng bywyd bod dydd a sgiliau meddwl dwys a myfyrio. Mae’r ffordd rydym yn dysgu yn cael ei lywio gan ein cyd-destun a’n cefndir. Mae’r ffordd rydym yn hwyluso ac annog dysgu dwys cyson yn rhan ganolog o’n bywyd bob dydd. Golyga hyn, hyblygrwydd: hyblygrwydd yn yr hyn rydym yn ei gynnig a sut rydym yn ei gynnig.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd ddysgu dyfeisgar, perthnasol a chraff yn yr holl gyfleoedd mai Padarn Sant yn ei gynnig. Rydym yn ymrwymedig chwilio am a chynnig y deunydd diweddaraf o ansawdd uchel, mewn ffyrdd sydd yn ei wneud yn bosib i nifer mwyaf eang a gwasgaredig i ymgysylltu’n llawn.

Adnoddau Ar-lein

Ein prif Blatfform Dysgu yn Athrofa Padarn Sant ydy Moodle, sy’n amgylchedd ddysgu ar-elin, lle mae myfyrwyr ac ymgeiswyr yn medru ddod o hyd i adnoddau sy’n cefnogi eu dysgu. Mae’n cynnwys fideos, webinarau, darlithoedd byw ac wedi eu recordio, darlleniadau digidol, E-lyfrau, erthyglau a grwpiau tarfod amrywiol. Gellir cael mynediad i Moodle drw'r wê er mwyn galluogi myfyrwyr i weld adnoddau o lle bynnag maen nhw'n astudio.

Library pic.jpg

Mae ein Llyfrgell a chasgliad eang o lyfrau mewn meysydd allweddol i ddiwinyddiaeth, y Beibl, cenhadaeth, hanes ac athroniaeth. Wrth gofrestru ag Athrofa Padarn Sant bydd unigolion yn cael ei chofrestru’n awtomatig gyda Llyfrgell Padarn Sant a’r Gwasanaethau Dysgu.

Mae’r Llyfrgell yng Nghaerdydd yn gartref i’n prif gasgliad o lyfrau clawr caled. Mae’r Llyfrgell ar agor 24 awr y dydd i ymgeiswyr a myfyrwyr cofrestredig ac yn ystod oriau swyddfa i’r rheiny mewn gweinidogaethau'r Eglwys yng Nghymru. Gellir cael defnydd cyfeiriadol cyfyngedig gan aelodau allanol drwy gais arbennig.

Mae gan y llyfrgell gasgliad arbenigol ar gyfer Caplaniaeth; a’n cynnwys dros 600 o eitemau a 100 o draethodau hir sy’n ffocysu ar gaplaniaeth. Mae yna hefyd casgliad Plant, Pobl Ifanc a theuluoedd yn y broses o gael ei chreu.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
library@stpadarns.ac.uk
Ffôn: 02920 563379
Am unrhyw gwestiynau penodol cysylltwch:
Anna Williams - Llyfrgellydd
anna.williams@stpadarns.ac.uk