Hyfforddiant Diogelu

Athrofa Padarn Sant sy’n gyfrifol am ddatblygu a darparu hyfforddiant diogelu ar ran yr Eglwys yng Nghymru. Mae cymuned Gristnogol iach yn un sy'n sicrhau ac yn meithrin llesiant pawb. Mae angen i waith diogelu gael ei wreiddio ym mhob agwedd ar fywyd a gweinidogaeth yr Eglwys, ac yn y cyd-destun hwn y mae’r gwaith hyfforddi a datblygu ym maes diogelu yn cael ei wneud yn yr Athrofa.
Bydd yr hyfforddiant y byddwch yn ei ddilyn drwy gyfrwng Athrofa Padarn Sant yn eich paratoi chi a'ch eglwys i ymwneud yn gadarnhaol ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion bregus mewn modd ymarferol a hyddysg.
Caiff yr hyfforddiant ei ddarparu gan hyfforddwyr profiadol a medrus, sy'n deall y gofynion statudol ynglŷn â diogelu plant ac oedolion, a sut mae'r gofynion hyn yn cael eu cyflawni yng nghyd-destun yr Eglwys yng Nghymru.
Cyflwynir yr hyfforddiant mewn dwy ran, Rhan 1 a Rhan 2. Rhaid mynychu'r ddwy rhan er mwyn cwblhau'r cwrs. Mae'r cwrs yn para tua 2-2.5 awr. Nid oes cost ar gyfer y cwrs.
Ein Cyrsiau Nesaf
RHAN | DYDDIAD | AMSER |
---|---|---|
Rhan 1 | Dydd Llun 8 Mawrth | 10.00 am |
Dydd Mercher 10 Mawrth | 10.00 am | |
Dydd Iau 11 Mawrth | 14.00 pm | |
Dydd Llun 15 Mawrth | 14.00 pm | |
Dydd Mercher 17 Mawrth | 10.00 am | |
Rhan 2 | Dydd Gwener 19 Mawrth | 14.00 pm |
Dydd Llun 22 Mawrth | 14.00 pm | |
Dydd Mercher 24 Mawrth | 10.00 am | |
Dydd Llun 29 Mawrth | 14.00 pm | |
Dydd Mercher 31 Mawrth | 10.00 am |