Y Tîm
Wrth wraidd Padarn Sant, mae tîm o staff profiadol ac ymroddgar. Mae nifer yn gweithio ym Mhadarn Sant Caerdydd, ond eraill wedi'u lleoli led led Cymru. Mae rhai yn academyddion arbenigol, rhai ag arbenigedd gweithredol (yn sicrhau bod pethau'n digwydd yn gywir), rhai eraill a phrofiad sylweddol o'r weinidogaeth. Un tîm sy'n ymrwymedig i holl weithgaredd Padarn Sant. Un o werthoedd Padarn Sant ydy cydweithio . Rydym yn ceisio osgoi rhannu'r gwaith i wahanol unedau, ond yn dathlu'r ffaith bod aelod o staff a'i brif ffocws ar ddatblygu gweinidogaeth yn medru cyfrannu at hyfforddiant cychwynnol gweinidogion, gall staff gweithredol arwain sesiynau i guradiaid ar newid a rheolaeth amser ac fe all academyddion cael eu sbarduno wrth ddod i gyswllt ag elfennau newydd gweinidogaeth plant, pobl ifanc a theuluoedd, arloesi a chaplaniaeth.
Staff Gweithredol
Dyma'r bobl y byddwch yn cysylltu â hwy ynghylch unrhyw ddigwyddiadau.
Cwrdd â'r tîmStaff Tiwtora
Dyma'r tîm i gysylltu ag ynghylch pynciau penodol neu faes arbenigedd penodol.
Cwrdd â'r tîmTiwtoriaid Cysylltiol
Dyma'r Tiwtoriad Cysylltiol sydd yn addysgu ar ein rhaglenni ôl-radd
Cwrdd â'r tim