Gweithio Gyda Ni
Mae Athrofa Padarn Sant yn rhan annatod o’r Eglwys yng Nghymru ac iddi weledigaeth o hyfforddiant ffurfiannol sy’n seiliedig ar genhadaeth, i holl bobl Duw.
Swyddi

Cynorthwyydd y Cyfryngau Clyweledol ac
E-ddysgu
Parhaol
Cyflog: £25,950 (Gradd C)
Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn i ymuno â thîm deinamig Athrofa Padarn Sant.
Mae hon yn rôl newydd gyffrous, i gefnogi’r defnydd cynyddol o dechnoleg, yn benodol adnoddau fideo, ar gyfer ystod o raglenni gan gynnwys rhaglenni achrededig (israddedig ac ôl-raddedig) a dysgu yn y gymuned/eglwys.
Rydym yn chwilio am unigolyn fydd yn dod â chreadigrwydd, dawn a dealltwriaeth o wahanol fathau o gyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys YouTube) yn ogystal ag etheg gweithio cryf. Y disgwyl yw y bydd canran sylweddol o'r swydd yn cynnwys ffilmio a golygu adnoddau fideo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hynod greadigol, yn frwdfrydig ac yn meddu ar brofiad o ffilmio a golygu ar draws sawl llwyfan y cyfryngau.