
Datblygu'r Weinidogaeth
Cyrsiau Hyfforddiant Taleithiol Hydref 2022 i Glerigwyr a Darllenwyr / Gweinidgion Lleyg Trwyddedig
Fel rhan o’r rhaglen CD taleithiol, rydym yn falch o ddweud byddwn yn cyflwyno cyfres o gyrisau dros gyfnod yr Hydref. Mae nawr y boisb i chi fwcio lle arnyny nhw. Nod y cyrsiau u gyd yw rhoi cefnogaeth a rhannu adnoddau gyda gweinidgion o draws yr Eglwys yng Nghymru.
Mae’r cyrsiau i gyd ar gael I Glerigion, Darllenwyr a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig eraill (LLM’s) Mae rhai yn agored i rheiny nad ydynt yn weinidogion, megis timoedd gofal bugeiliol ac arweinyddion lleyg eraill. Lle mae hynny’n wir bydd yn cael ei nodi’n glir.
Mae’r cyrsiau yn amrywiaeth o gyrsiau hanner diwrnod a diwrnodau llawn, rhai ar-lein ac eraill mewn person, gyda chyrsiau mewn person yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Cymru. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr o’r Eglwys yng Nghymru, gyda chyfranogwyr yn gyfrifol am unrhyw gostau teithio. Mae’n bosib y bydd gofyn i gyfranogwyr ddod â chinio gyda hwy i rai lleoliadau. Lle fo hynny’n wir bydd wedi ei nodi’n glir ar yr e-bost yn cadarnhau eich lle.
Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn dod o hyd i gwrs yr hoffech fynychu, os nad sawl un! Bydd rhifau uchafswm ac isafswm ar gyfer cyrsiau.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i greu diwylliant o ddysgu gydol-oes ymysg ei chlerigwyr; gan gynnwys Darllenwyr a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig (LLM’s) ac mae Athrofa Padarn Sant yn gweithio’n agos gyda chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru er wyn allu cefnogi’r dysgu hwn.
Athrofa Padarn Sant sydd a’r cyfrifoldeb dros hyfforddiant a phrosiectau, ynghyd â hyfforddiant craidd sydd yn gyffredin yn yr esgobaethau i gyd megis cyrsiau cyn-ymddeol a’r cynllun Adolygu Datblygiad yn y Weinidogaeth (MDR). Bydd y chwe esgobaeth yn ychwanegu at hyn gyda’u diwrnodau hyfforddiant eu hun ar gyfer eu Clerigion, Darllenwyr ac LLM’s sydd wedi ei deilwra at gyd-destunau, anghenion a gweledigaethau penodol yr esgobaeth.
Yn ychwanegol i ddatblygiad proffesiynol a datblygu’r weinidogaeth mae Athrofa Padarn Sant hefyd yn rhannu adnoddau ymarferol, gwybodaeth a chymorth i glerigion a LLM’s i alluogi gweinidogaethu mewn amrywiaeth o gyd-destunau ar draws Cymru.
Gellir gweld fwy o wybodaeth ar rhai o feysydd allweddol Datblygu a Chefnogi’r Weinidogaeth isod. Os and ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn sydd ei hangen, neu os hoffech fwy o wybodaeth ar unrhyw agwedd o Ddatblygu’r Weinidogaeth ym Mhadarn Sant cysylltwch gyda ni:



