Arbenigedd mewn Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Trosolwg o'r Cwrs
Caiff y Radd Meistr hon ei ddilysu gan Brifysgol Durham fel MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth Mae’r cwrs hwn yn arbenigedd o fewn hwn ac mi fydd pob modiwl wedi ei gynllunio yn arbennig i weithwyr plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Sut Gyflwynir y Cwrs
Cyflwynir ein cyfnodau preswyl wyneb yn wyneb. Mae yna fanteision ffurfiannol pendant i ddysgu wyneb yn wyneb a chyfnodau preswyl. Rydym wedi gweld o brofiad, budd y sgyrsiau mae ein myfyrwyr yn ei gael gyda’i gilydd mewn darlithoedd ac yn ystod prydiau bwyd ac yn ystod gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dysgu sy’n digwydd yn ystod cyfnodau preswyl a thu allan i ddarlithoedd yn rhan hanfodol o ddysgu ym Mhadarn Sant.
Deilliannau Dysgu
Mae ein deilliannau dysgu ar gyfer bob modiwl yn dibynnu ar gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau (wedi selio ar drafodaeth), ymgysylltu â thiwtoriaid a thrafodaethau gyda myfyrwyr a darlithwyr. Mae’r rhyngweithiad hynny rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr yn amhrisiadwy ac yn chwarae rôl mewn helpu chi i archwilio pwnc, gan herio a datblygu eich meddwl a dyfnha eich dealltwriaeth. Dyma pryd mae ffurfiant yn digwydd, a dyma pam rydyn ni’n dysgu wyneb yn wyneb
Ein nod yw i grefftio profiad, yn hytrach na chyflwyno set o ddarlithoedd yn unig, er ein yn seilio hyn ar strwythur cadarn. Lluniwyd y rhaglen yn benodol i gwrdd ag anghenion rheiny sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Dull cyflwyno
3 modiwl y flwyddyn am ddwy flynedd
Wedi ei ddilyn gan flwyddyn o fewnbwn ac ysgrifennu traethawd hir.Cyflwynir mewn tri bloc dwys y flwyddyn (Dydd Llun i Ddydd Mercher) am dair blynedd ( 9 diwrnod ar ein safle yng Nghaerdydd bob blwyddyn).
Caiff cyfnodau preswyl eu cynnal ar ein safle yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd sydd yn cynnig llety en-suite, cyfleusterau arlwyo modern ac ystafelloedd dysgu pwrpasol ac ystafell gyffredin gyfforddus.
| Dyddiadau Cyfnodau Preswyl |
|---|
| 2026-27 |
| 14-16 Medi |
| 11-13 Ionawr 2027 |
| 12-14 Ebrill 2027 |
Modiwlau y byddwch yn eu hastudio
| Blwyddyn 1 - Tystysgrif Ôl-radd | Blwyddyn 2 - Diploma Ôl-radd | Blwyddyn 3 - Gradd Meistr |
|---|---|---|
| Ymchwil a Myfyrio: Adnoddau a Dulliau | Prosiect Dysgu Annibynnol | Traethawd hir mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth |
| Diwinyddiaeth ac Ysbrydoldeb y Plentyn | Gweinidogaeth a Chenhadaeth gyda Plant, Teuluoedd a Phobl Ifanc | |
| Datblygiad gwaith Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn yr Eglwys a'i lle o fen cymdeithas gyfoes | Ymarfer Myfyriol: Arweinyddiaeth a Chydweithredu |
Blwyddyn 1
Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrio Diwinyddol
Bydd y modiwl allweddol hwn yn eich dysgu sut i chwilio gwybodaeth, sut i ddadansoddi beth sy’n digwydd. Mae’r radd Meistr mewn gwirionedd yn drwydded i wneud gwaith ymchwil. Dyma fodiwl bydd pob myfyriwr yn ei astudio waeth beth yw ei arbenigedd. Nid yw’n canolbwyntio yn benodol ar blant, pobl ifanc a theuluoedd, ond bydd y gwerth i’w weld yn y dyfodol.

Diwinyddiaeth a Ysbrydoldeb y Plentyn
Modiwl Craidd i bob ymarferwr agyflwynir gan Mark Griffiths and Yvonne Morris. Mae’n cyflwyno myfyrdodau diddorol- yn enwedig o amgylch pwnc troëdigaeth
Datblygiad gwaith Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn yr Eglwys a'i lle o fewn cymdeithas gyfoes
Taith drwy 250 o flynyddoedd i weld sut rydym wedi cyrraedd lle ydyn ni. Bydd Rachel Turner yn archwilio lle gallwn /lle ddylwn fod yn canolbwyntio heddiw.
Blwyddyn 2

Cenhadaeth Gyfoes i blant, pobl ifanc a theuluoedd
Bydd Gary Smith o’r Message Trust yn ein helpu gyda hyn a bydd Lucy Moore of Messy Church yn cynnig mewnbwn sylweddol hefyd. Mae sylwad Lucy “If Messy Church was created as a Fringe Activity and we’ve made it mainstream, what do we now have to do to reach the fringes again?” yn ei esbonio yn berffaith.

Arweinyddiaeth mewn Cyd-destun Beiblaidd a chyfoes
Mae’r modiwl hyn yn trafod arweinyddiaeth, mae’n trafod arweinyddiaeth yn gyffredinol, nodweddion arweinwyr, ac yn trafod strategaeth, diwylliant ac ysgogi eraill. Bydd yn canolbwyntio ar gyd-destun plant, pobl ifanc a theuloedd. Bydd Matt Summerfield (gynt o Urban Saints a nawr Zeo Church) yn ein helpu i darfod y maes hwn.
Modiwl Dysgu’n Annibynnol
Amrywiaeth o ddarlithoedd gan arbenigwyr tu allan I plant, bobl ifanc a theuluoedd, felly athronaieth, astudiaethau beiblaidd, a diwinyddiaeth ymarefrol er mwyn ein ymestyn yn ehanagach. Yna byddwch yn cytuno ar deitl gydag un u’r darlithwyr yn eu pwnc arbenigol ( gyda chysylltiad neu a dim cysylltiad uniongyrchol â phlant, bobl ifanc a theuluoedd) a bydd darlithydd yn eich goruchwylio chi drwy’r broses o ysgrifennu Ymchwil Annibynnol 6,000 o eiriau.
Blwyddyn 3

Traethawd hir
15,000 o eiriau ar bwnc o’ch dewis chi.
Y Tîm Addysgu
Mae’r tiwtoriaid yn cynnwys: Lisa Lyall (Glo! Kids), Lucy Moore (Llan Llanast), Yvonne Morris (Esgobaeth Rhydychen ), Rick Otto (New Wine), Gary Smith (Message Trust), Matt Summerfield (Zeo Church / Urban Saints yn flaenorol), Rachel Turner (Parenting for Faith), George Lings (Cyn bennaeth Ymchwil i Church Army) Parch Ddr Sally Nash, a Mark Griffiths (Athrofa Padarn ) ac eraill.

Y Broses Ymgeisio
Mae’r radd hon yn radd mfyrio ar ymarfer, ac er mai y criteria arferol ydy gradd 2:1, rydym hefyd yn ystyried profiad gweinidogaethol yn y maes hwn dros raddau balenorol, felly os nad oes gradd gennych, cysylltwch a ni i darfod ymhellach.
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ydy diwedd Gorffennaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni.
Gellir gweld fwy o wybodaeth am Astudiaethau Ôl-radd fan hyn
Ceisiadau gan Fyfyrwyr o dramor
Nid oes gan Athrofa Padarn Sant drwydded Haen 4 sydd yn galluogi ni i noddi myfyrwyr o dramor i symud i’r DU i astudio. Serch hyn, gan fod dysgu wyneb yn wyneb ar y rhaglen MA yn cynnwys 3 cyfnod preswyl byr bob blwyddyn, os yw myfyrwyr o tu allan i’r DU yn medru mynychu’r cyfnodau preswyl ar fisa ymwelydd, byddan nhw yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i’r rhaglen MA. Mae cael myfyrwyr o dramor yn golygu fwy o waith gweinyddu i Athrofa Padarn Sant ac am y rheswm hynny, mae yna gost o £500 y flwyddyn i bob myfyriwr heb ganiatâd i aros yn y DU
Ffioedd
Mae ffioedd y cwrs yn cael eu rhannu ar draws y 3 mlynedd. I fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2026/2027 y canlynol fydd y ffioedd:
| Cymhwyster | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
|---|---|---|---|
| PGCert | £3239 | Ddim yn berthnasol | Ddim yn berthnasol |
| PGDip | £3239 | £3239 | Ddim yn berthnasol |
| MA | £3239 | £3239 | £1080 |
Llety
Mae llety en-suite are gael ar y safle am gost o £180 bob cyfnod preswyl, sy’n cynnwys pob pryd bwyd.
Mae'n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau /grantiau ôl-radd drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:
Myfyrwyr o Loegr: https://www.gov.uk/apply-online-for-student-finance
Myfyrwyr Cymru: https://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr o’r Alban : https://www.saas.gov.uk/
Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon: https://www.studentfinanceni.co.uk/