Amdanom ni

‘Ffurfiant mewn cymuned ar gyfer cenhadaeth’
Athrofa Padarn Sant ydy adain hyfforddi yr Eglwys yng Nghymru, ond fel mae ein datganiad cenhadaeth uchod yn ei nodi rydym yn cynnig fwy na dim ond hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth. Mae ein ffocws ar ddysgu a ffurfiant, ond rydym hefyd yn rhoi ffocws ar:
Feithrin Disgyblion
Rydym yn meithrin disgyblion drwy ein gwaith datblygu gweinidogaeth Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a’r weinidogaeth Arloesol, gan greu rhwydwaithiau o fobl allweddol i hyfforddi arbenigwyr yn y ddau faes. Canlyniad hyn ydy annog ffyrdd gwahanol a newydd o brofi /gyflwyno’r eglwys.
Rydym hefyd yn cynhyrchu adnoddau i gymunedau, i deuluoedd a grwpiau astudio’r Beibl megis Byw Bywyd fel yr Iesu (Jesus Shaped Life) canllaw bywyd fel disgybl neu Dysgu i Dyfu ( Living and Learning)
Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth Drwyddedig, Hyfforddiant i Weinidogion Trwyddedig newydd a Datblygu’r Weinidogaeth
Os ydych yn hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth, yn dilyn mynd drwy’r broses dethol, rydych yn dechrau eich hyfforddiant drwy astudio’r BTh ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth ( Theology for Life) ac yn profi sawl elfen o ddysgu, addoli, cymuned a datblygiad ysbrydol.
Yn dilyn ordeiniad fel gweinidog byddwch yn medru manteisio ar gyfleoedd hyfforddi yn eich cyfnod cychwynnol fel gweinidog a chyfnod pontio drwy gyfrwng ein rhaglen hyfforddi i Weinidogion Trwyddedig Newydd ( NLM’s).
Wrth ddod yn weinidog profiadol, byddwch yn symud ymlaen at dderbyn hyfforddiant datblygiad personol drwy ein rhaglen Datblygu’r Weinidogaeth. Bydd y cyrsiau hyfforddi hyn yn adeiladu ar eich sgiliau ac an annog dysgu personol a datblygiad ysbrydol.
Cyrsiau Hyfforddi Arbenigol
Cadw Pobl yn Ddiogel a Dechrau Caplaniaeth
Mae cwrs Cadw Pobl yn Ddiogel (Iechyd a Diogelwch i Eglwysi) yn agored i bob aelod o’r weinidogaeth ac i uniogolion sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gydag eglwysi.
Mae Dechrau Caplaniaeth yn gwrs penodol ar gyfer Caplaniaid sydd newydd dechrau mewn swydd Caplan yn y GIG. Nod y cwrs yw i ddatblygu gwell dealltwriaeth o ofynion y swydd.
Rhaglenni Ôl-radd
Rydym yn cynnig cyrsiau MTh gan gynnwys Diwinyddiaeth, Astudiaethau Caplaniaeth (yn bresennol i’r Weinyddiaeth Ammdiffyn, Caplaniaid Cymunedol, Gofal Iechyd GIG a Chwaraeon) a Plant Pobl Ifanc a Theuluoedd.
Ein gobaith yw bod yn rhan allweddol o adeiladu cymuned gref, i gynyddu ein cenhadaeth Gristnogol, drwy ffurfiant gweinidogion, meithrin disgyblion ac i ddatblygu’r cenhedlaeth nesaf o arbenigwyr Diwinyddol Cymreig.