English

Ffurfiant mewn cymuned ar gyfer cenhadaeth

Croeso i Athrofa Padarn Sant

Athrofa Padarn Sant yw cymuned ddysgu Gristnogol yr Eglwys yng Nghymru. Ei nod yw galluogi clerigion a gweinidogion lleyg i arwain eglwysi iach a bywiog heddiw ac yn y dyfodol.

Drwy addoli, dysgu a ffurfiant yn y Gymraeg a'r Saesneg, rydym ni'n eich cefnogi wrth i chi archwilio galwedigaeth, astudiaethau academaidd neu baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Rydym ni hefyd yn eich cefnogi i ddatblygu drwy gydol eich gweinidogaeth.

Rydym ni'n yn croesawu dysgwyr o thu hwnt i’r Eglwys yng Nghymru a gyda’n gilydd, rydym yn ffurfio cymuned Gristnogol amrywiol sy’n unedig mewn disgyblaeth, dysgu a gwasanaeth.

Mae ein holl waith yn cael ei lunio gan ein gweledigaeth o Ffurfiant mewn Cymuned ar gyfer Cenhadaeth :

  • Ffurfiant – tyfu mewn ffydd, cymeriad a disgyblaeth.
  • Cymuned – dysgu, addoli a gwasanaethu gyda’n gilydd.
  • Cenhadaeth – ymateb i alwad Duw a gwasanaethu bywyd yr Eglwys yn y byd heddiw.

Rydym yn eich gwahodd i bori drwy'r cyfleoedd hyfforddi a dysgu sydd yn cael ei gynnig gennym, a gweld sut gallwn ni gefnogi eich taith ffydd, dysgu a gweinidogaeth.

Pan edrychodd Iesu ar y dyrfa dywedodd ' Yna meddai wrth ei ddisgyblion, 'Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin ' ac anogodd ni i 'deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.'

Yr Uwch Dîm Rheoli.