Diwinyddiaeth Ar Gyfer Bywyd

BTh (Anrhydedd) Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Gwybodaeth i ymgeiswyr
Mae’r BTh a elwir hefyd yn Ddiwinyddiaeth ar Gyfer Bywyd, yn gwrs academaidd sydd yn medru dy helpu i gysylltu dy ffydd â dy fywyd bob dydd. Mae'n gwrs achrededig mewn Diwinyddiaeth, wedi'i ddarparu gan Athrofa Padarn Sant ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru. Dilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Trwy ddilyn y cwrs, ac ysgrifennu'r aseiniadau, mae’n bosib derbyn tystysgrif mewn dwy flynedd, diploma mewn pedair blynedd neu radd mewn chwe blynedd mewn Diwinyddiaeth.
Mae pob modiwl yn dechrau gyda sesiwn ragarweiniol ar-lein wedi ei arwain gan arbenigwr ar y pwnc ar Zoom. Yna byddi’n cyfarfod mewn grŵp naill ai'n lleol neu ar-lein am wyth sesiwn, i drafod deunyddiau dysgu y bydd yr arbenigwr pwnc wedi'u paratoi ar eich cyfer. Mae’r holl ddeunydd hwn ar-lein. Yn ystod y tymor byddwch hefyd yn cyfarfod ag eraill yn eich ardal ar gyfer seminar canol y tymor. Ar ddiwedd y modiwl, byddi di’n ysgrifennu aseiniad. Am y ddwy flynedd olaf (lefel 6) mae'r cwrs yn cael ei gynnal ar noson yn ystod yr wythnos ar Zoom (nos Iau ar hyn o bryd).
Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod mwy am y cwrs:
Gweld manylion Cwrs Blasu - Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd fan hyn
Cwestiynau Cyffredin
Ymrestru
I weld cytundeb ymrestru myfyriwr Prifysgol y Drindod Dewi Sant cliciwch yma
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs yn agel ei rhannu i 3 lefel, mae pob lefel yn cymryd 2 flynedd i gwblhau. Bydd midiwlau Blwyddyn B yn cael eu cyflwyno yn 2021/2022 a modiwlau Blwyddyn A yn 2022/2023
Dim ond y rheiny sydd wedi eu noddi gan eu Esgob i wneud hyfforddianr llawn amser ar gyfer y weinidogaeth drwyddedig all astudio'r cwrs yn llawn amser.
Y Modiwlau ar gyfer 2021/22 ydy:
LEFEL 4 BLWYDDYN A | LEFEL 4 BLWYDDYN B | LEFEL 5 BLWYDDYN A | LEFEL 5 BLWYDDYN B | LEFEL 6 - LEFEL GRADD- BLWYDDYN A | LEFEL 6- LEFEL GRADD BLWYDDYN B |
---|---|---|---|---|---|
Cyflwyno Athrawiaeth Gristnogol | Cyflwyno Addoliad Anglicanaidd | Archwilio Dehongli Beiblaidd | Archwilio Dull Ganonaidd o Ddarllen yr Ysgrythur | Ymgysylltu Arweinyddiaeth Gristnogol a'r Beibl | Ymgysylltu Cristoleg o'r Testament Newydd a'r Credoau |
Cyflwyno’r Hen Destament | Cyflwyno'r Testament Newydd | Archwilio Cristonogaeth yng Nghymru: Y Gorffennol, Presenneol a'r Dyfodol | Archwilio Athrawiaeth Gristnogol | Ymgysylltu Ymarfer Bugeiliol a Seicoleg | Ymgysylltu Diwinyddiaeth Dwylliant Gyfoes |
Cyflwynp Cenhadaeth Gristnogol | Cyflwyno Diwinyddiaeth Ymarferol | Archwilio Meddwl Moesegol Cristnogol heddiw | Archwilio Eglwys Genhadol | Ymgysylltu Diwinyddiaeth Sacramentaidd a Chenhadaeth | Ymgysylltu Apolgeteg a Gwyddoniaeth |
Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau lefel 4 yn ennill Tystystgrif mewn Diwnyddiaeth a Disgyblaeth o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau lefel 5 yn ennill Diploma a chwblhau lefel 6 yn ennill gradd BTh.
Trafodwch gyda ni mor gynnar yn y broses a phosib os ydych wedi astudio Diwinyddiaeth yn academaidd yn flaenorol, gan ei fod yn bosib y fedrwch ddechrau'r cwrs ar lefel Diploma.
Ffioedd y cwrs ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2020/2021 yw £120 y flwyddyn. Ceir anfoneb gan y Corff Cynrychiolwyr am gostau'r cwrs. Gellir gwneud trefniadau am gynllun talu i wasgaru'r gost.
Cyfnod Sefydlu ar y Cwrs
Mae Athrofa Padarn Sant yn cynnig y cyfle i ddarpar myfyrwyr i gymryd rhan mewn cwrs sefydlu i gyfwyno themâu allweddol, syniadau a ffyrdd o ddysgu mewn amgylchedd anffurfiol a chefnogol.