Adroddiadau

Ym mis Mawrth 2020 fe ddyfarnwyd marc safon yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd(The Quality Assurance Agency (QAA) i Athrofa Padarn Sant. Mae’r QAA yn adolygu safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyriwr pob darparwr addysg uwch ar draws y sector.
Mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (The Quality Assurance Agency (QAA) yn gorff annibynnol a gofal dros fonitro a chynghori am safonau ac ansawdd addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. Yn Chwefror 2020 Comisiynodd Athrofa Padarn Sant Adolygiad Ansawdd Porth: Cymru gan y QAA. Fe adolygwyd portffolio helaeth o dystiolaeth a ddarparwyd gan Athrofa Padarn Sant gan y tîm arolygu, gan gynnwys polisïau, ymarfer, a thystiolaeth gennym ni a’n prifysgolion rydym yn partneru a hwy. Gwnaeth yr arolygwyr gyfarfod â llywodraethwyr, staff a myfyrwyr i archwilio beth oedd eu profiadau o weithio ag astudio ym Mhadarn Sant.
Canlyniad yr adolygiad oedd cymeradwyaeth gref o safonau academaidd sy’n sail i’r gwaith rydym ni’n gwneud ac i ansawdd profiad myfyrwyr sy’n astudio ym Mhadarn Sant.
Canlyniad ffurfiol yr adolygiad gan y tîm arolygu oedd:
- Gellir fod yn hyderus bod safonau academaidd yn ddibynadwy, yn cwrdd â gofynion y DU, ac yn rhesymol cyffelyb.
- Gellir fod yn hyderus bod ansawdd profiad academaidd myfyrwyr y cwrdd â’r gofynion rheoleiddiol sylfaenol.
Mae Athrofa Padarn Sant yn falch iawn gyda chanlyniad yr adolygiad ac mae’n gydnabyddiaeth bellach o’r gwaith annatod a phwysig ein staff a’n myfyrwyr.

Cynhyrchwyd Adroddiad Blynyddol gan Badarn Sant ar gyfer 2020-21
