MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth, a Chenhadaeth
Ychydig am y rhaglen
Ar yr M.A. mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth a ddilysir gan Brifysgol Durham, byddwch yn archwilio ac yn ymgysylltu â dysgeidiaeth a thraddodiadau'r Eglwys Gristnogol drwy gydbwysedd o astudio academaidd a dibenion ymarferol. Bydd y cwrs cyffrous hwn yn rhoi sylfaen ichi mewn diwinyddiaeth ymarferol ac astudiaethau Beiblaidd, wedyn yn eich galluogi i deilwra’ch astudiaeth i weddu i'ch diddordebau neu’ch cefndir – boed yn ddiwinyddiaeth ymarferol, athrawiaeth, yr Hen Destament, y Testament Newydd, ysbrydolrwydd, cenhadaeth, neu hanes yr eglwys. O fewn eich pynciau dewisol, bydd llawer o ryddid ichi ganolbwyntio ar eich meysydd penodol eich hun o ddiddordeb neu wreiddio’ch astudiaeth yn eich sefyllfa neu'ch ardal eich hun.
Beth bynnag fo'ch cefndir, bydd y rhaglen yn eich annog i ddeall, beirniadu a datblygu’ch disgyblaeth ddyddiol a'ch arferion fel gweinidog drwy astudio a myfyrio.
Clywed gan ein myfyrwyr
Dyma Ruth yn esbonio ei phrofiad o'r cwrs M.A
Sut gyflwynir y rhaglen
Mae'r M.A. mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth yn radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Durham a ddarperir drwy Athrofa Padarn Sant. Mae'r rhaglen hyblyg hon wedi'i chynllunio gyda bywyd prysur y rhai sy'n gweithio mewn cof, sef pobl leyg a gweinidogion ordeiniedig ill dau. Gan hynny, mae'n gwrs rhan-amser (dwy flynedd ynghyd â thraethawd hir) ac mae wedi'i rannu rhwng tri chyfnod preswyl, darpariaeth ar-lein, a chyrsiau dydd. Bydd y myfyrwyr yn mwynhau strategaethau addysgu a dysgu ymestynnol a rhyngweithiol.

Bydd dau o'r cyfnodau preswyl yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Mercher ar ein safle yng Nghaerdydd, lle mae gennyn ni lyfrgell helaeth ac ystafelloedd addysgu â chyfarpar da. Mae croeso ichi addoli ochr yn ochr ag aelodau'n coleg diwinyddol yn ein capel deniadol.
Cymwysterau sydd ei hangen er mwyn astudio
Mae’n rhaglen MA yn addas i raddedigion mewn Diwinyddiaeth neu Astudiaethau Crefyddol, er y gellir ystyried profiad sylweddol o weinidogaeth hefyd. Er ei bod wedi'i hanelu'n bennaf at bobl sy'n ymwneud â gweinidogaeth Gristnogol (leyg neu ordeiniedig), bydd yr un mor werthfawr i aelodau o rai grwpiau proffesiynol eraill (e.e. meddygaeth, gwaith cymdeithasol, dysgu), yn ogystal ag unigolion sydd wedi ymgymryd â gradd israddedig mewn diwinyddiaeth neu astudiaethau crefyddol ac sydd am ehangu ar eu gwaith dysgu.

Y Modiwlau fydd yn cael eu hastudio
I gwblhau'r rhaglen MA hon bydd angen ichi gymryd cyfanswm o 180 o gredydau. Mae hyn yn cynnwys chwe modiwl a addysgir (120 credyd) ac ar ôl cwblhau'r cam hwn yn llwyddiannus byddwch yn symud ymlaen i'ch traethawd hir (60 credyd).
Isod gwelir y modiwlau ar ein cwricwlwm ni. Bydd yn ofynnol ichi ddilyn y tri modiwl cyntaf (blwyddyn un), ac wedyn byddwch yn dewis tri modiwl arall (blwyddyn dau), a bydd yr aseiniadau yn y rhain yn cael eu teilwra, mewn ymgynghoriad â thiwtor academaidd, at eich diddordeb neu’ch sefyllfa chi.
Dyddiadau Cyfnodau Preswyl | ||
---|---|---|
Medi | Dydd Llun 18 - Dydd Mercher 20 Medi 2023 | |
Ionawr | Dydd Llun 22- Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 | |
Ebrill / Mai | Dydd Llun 29 Ebrill - Dydd Mercher 1 Mai |
Blwyddyn 1 - Tystysgrif Ôl-radd | Blwyddyn 2 -Diploma Ôl-radd | Blwyddyn 3 - Gradd Meistr |
---|---|---|
Ymwchwil a Myfyrio | Astudiaethau Uwch o Destunau Diwinyddol | Traethawd Hir 15,000 o eiriau |
Y Beibl a'r Ffydd Gristnogol (Esboniadaeth) | Astudiaethau Beiblaidd Uwch | |
Pwnd Uwch Athrawiaeth Gristnogol | Myfyrio Ymarferol | |
Ffioedd
Mae ffioedd y cwrs yn cael eu rhannu ar draws y 3 mlynedd. I fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2022 y canlynol fydd y ffioedd:
Cymhwyster | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
---|---|---|---|
PGCert | £3120 | Ddim yn berthnasol | Ddim yn berthnasol |
PGDip | £3120 | £3120 | Ddim yn berthnasol |
MA | £3120 | £3120 | £1040 |
Mae'r gost ar gyfer llety yn cael eu godi ar wahân am £180 bob cyfnod preswyl, lluniaeth llawn.
Mae'n bosib y bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer benthyciadau /grantiau ôl-radd drwy Gyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad rydych yn byw:
Myfyrwyr o Loegr: https://www.gov.uk/apply-online-for-student-finance
Myfyrwyr Cymru: https://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr o’r Alban : https://www.saas.gov.uk/
Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon: https://www.studentfinanceni.co.uk/
Y Broses Ymgeisio
Rydym yn croesawu ceisiau drwy'r flwyddyn i gychwyn yn unrhw flwyddyn ond mae'r cyrisua yn dechrau ym mis Medi. Rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn diwedd Gorffennaf.
Gallwch hefyd lawrlwytho pamffled fan hyn.
Gellir gweld fwy o wybodaeth ar Astudiaethau Ôl-radd ym Mhadarn Sant fan hyn