Prentisiaeth mewn Gweinidogaeth

- Gwaith gyda chyflog mewn Eglwys neu Sefydliad Gristnogol
- Cefnogaeth tra yn y swydd
- Cwrs Diwinyddiaeth am ddim o ansawdd uchel wedi ei hachredu
I Gyflogwyr cliciwch yma
Beth yw'r cwrs?
Mae’r rhaglen Prentisiaeth yn dod â’r holl elfennau ynghyd i’ch galluogi i gael profiad sy’n gallu newid eich bywyd a’ch ffydd dros gyfnod o flwyddyn. Mae wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sy’n dymuno archwilio galwad i weinidogaeth Gristnogol o fewn unrhyw enwad Cristnogol yng Nghymru. Mae’n anelu’n bennaf at oedolion ifanc rhwng 18 a 30 oed, ond gellir hefyd ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr dros 30 oed.
Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch wedi cael profiad a chymhwyster mewn gweinidogaeth.
- Sail dda ar gyfer swyddi mewn Eglwysi neu sefydliadau Cristnogol
- Cam yn agosach i’r broses ddirnadaeth i weinidogaeth ordeiniedig /gweinidogaeth achrededig yn eich enwad chi
- Sgiliau trosglwyddadwy gwych i le bynnag bydd Duw yn eich arwain chi nesaf
Sut mae'n gweithio?

Bydd Eglwys neu sefydliad Cristnogol yn eich cyflogi chi fel Prentis. Byddan nhw yn eich talu chi ar y ‘raddfa prentis’ swyddogol, yn rheoli a chyfarwyddo eich gwaith ac yn darparu arweiniad cymorth a hyfforddiant. Rydych chi’n rhan o’u tîm gweinidogaethol.
- Byddwch yn ymrestru ar gwrs Prentisiaeth mewn Gweinidogaeth Gristnogol a gynigir gan Goleg Sir Gâr, partner prentisiaeth Athrofa Padarn Sant, sydd â’r contract gyda Llywodraeth Cymru. Coleg Sir Gâr sy’n sicrhau eich bod yn cael eich trin yn dda, ac yn darparu hyfforddiant sgiliau hanfodol megis cyfathrebu, a lle fo’n briodol Mathemateg a Saesneg.
- Byddwch yn cwblhau Tystysgrif Lefel 4 Addysg Uwch mewn Gweinidogaeth Gristnogol gydag Athrofa Padarn Sant. Mae hyn gyfateb â blwyddyn gyntaf gradd. Yn fras mae hyn yn golygu un diwrnod yr wythnos o addysg yr wythnos yn trafod meysydd megis y Beibl, athrawiaeth Gristnogol, cenhadaeth a diwinyddiaeth ymarferol.
A’r gost i chi yw… £0. Bydd hefyd yn cynnwys gweddi, gwaith caled, ac yn golygu camu tu allan i’ch man cyffyrddus, ond mae’r holl addysg a’r hyfforddiant yn cael ei dalu drwy’r grant mae Llywodraeth Cymru’n ei roi i Goleg Sir Gâr.
A dyna fe, blwyddyn gyntaf gradd, profiad gwaith amhrisiadwy a datblygiad personol, heb gost o gwbl i chi. Hyn i gyd a chael eich talu.
Y Manylion Pwysig

Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i fod yn 12 mis o hyd. Gall gael ei ymestyn I 14 mis os nad ydych wedi cwblhau pob un o’r gofynion. Mae’r rhaglen yn dechrau ar 1 Medi 2026. Byddwch yn cael eich talu ar raddfa gyflog Prentis a osodwyd gan y llywodraeth sydd ar hyn o bryd yn £8 yr awr. Bydd eich cytundeb â’ch cyflogwr angen bod rhwng 16 a 30 awr yr wythnos. Mae’n bosib y bydd rhai cyflogwyr yn medru cynnig llety a graddfa is o gyflog.
Dydd Llun bydd diwrnod yr addysg.
- Yn gyffredinol mae hyn yn digwydd ar-lein yn y bore gydag Athrofa Padarn Sant yn astudio’r Dystysgrif Gweinidogaeth Gristnogol, a rhai prynhawniau gyda Choleg Sir Gâr yn astudio sgiliau hanfodol.
- Bydd yna 3-4 cyfnod preswyl gofynnol yn ystod y flwyddyn wedi ei gyflwyno gan Athrofa Padarn Sant, gan ddod a’r holl brentisiaid ynghyd o draws Cymru. Bydd y costau hyn yn cael e dalu i chi.

Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gweinidogaeth Gristnogol yn cynnwys chwe modiwl:
- Diwinyddiaeth Ymarferol
- Testament Newydd
- Hen Destament
- Athrawiaeth Gristnogol
- Cenhadaeth Gristnogol
- Ymarfer Myfyriol
Sut gyflwynir y cwrs
- Bydd dau o rain yn cael eu dysgu drwy gyfnodau preswyl wyneb yn wyneb
- Tri ar-lein dyddiau Llun un pob tymor.
- Cyflwynir y modiwl Ymarfer myfyriol dros y flwyddyn gyfan wrth i chi ymgysylltu â’ch lleoliad gwaith. Bydd gan bob modiwl aseiniad sy’n helpu chi i feddwl yn glir ac i weld sut mae dysgu diwinyddol yn berthnasol i realiti gweinidogaeth Gristnogol.
Cymorth
Mae gan Athrofa Padarn Sant brofiad helaeth o gefnogi pobl sydd yn credu nad ydyn nhw yn ‘academaidd’ i lwyddo yn eu hastudiaethau. Mae Emma ein tiwtor ymgynghorol ar anableddau yn rhoi cymorth i rheiny â gwahaniaethu dysgu, niwroamrywiaeth ac anableddau.Byddwn ni yn darparu dysgu Lefel 2 mewn Rhifedd, Llythrennedd a TG i’r rheiny sydd eu hangen. Mae yna fwrsari o £2,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru i Brentisiaid ag anableddau.
Sut mae dechrau?

Ni all Athrofa Padarn Sant ddarparu cyflogwr (Eglwys neu Sefydliad Cristnogol).
Yn arferol bydd cyflogwr yn dod o hyd i rywun hoffent gynnig y brentisiaeth iddo, ac yna byddwch chi yn ymgeisio am y rhaglen brentisiaeth. Yn aml mae hyn yn golygu y bydd Eglwys wedi penderfynu eu bod nhw eisiau un neu mwy o brentisiaid, yn hysbysebu, recriwtio ac yna bydd yr unigolion hynny yn ymrestru.
Ond, rydyn ni yma i helpu i ddos a phopeth at ei gilydd. Cysylltwch ag i os hoffech wybod mwy neu archwilio’r posibiliadau.
Yn dilyn y Brentisiaeth

Bydd y brentisiaeth Lefel 4 yn agor sawl llwybr gyrfa i chi:
- Bydd rhai sy’n astudio’r brentisiaeth yn archwilio ordeiniad neu achrediad o fewn eu henwad penodol yn ystod y flwyddyn.
- Bydd rhai yn mynd ymlaen i swyddi gweinidogaethol megis cynorthwywyr bugeiliol, gweithwyr plant/ pobl ifanc neu amrywiaeth o swyddi gweinidogaethol neu gymunedol eraill.
- Bydd rhai yn mynd mewn i swyddi seciwlar ond wedi ei galluogi’n well i fod disgybl i Grist yn yr amgylchedd hwnnw.
- Bydd prentis yn ennill cymhwyster cyfwerth â blwyddyn gyntaf gradd. Byddan nhw gallu dechrau Prifysgol i gwblhau Lefel 5 a 6 i gwblhau gradd. Rydyn ni fel athrofa yn cynnig gradd BTh mewn Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth.
I Gyflogwyr
Gallwn ni eich arwain chi drwy’r broses gyfan. Rydyn ni’n ymwybodol bod gael prentis yn ‘brofiad newydd’ i nifer o eglwysi. Gallwn ni eich helpu chi i’w wneud yn iawn, fel ei fod yn fendith i’ch eglwys, i’r prentis ac er mwyn sicrhau bod eu hamser gyda chi yn llwyddiannus.
Byddwn ni yn talu £1000 dros y flwyddyn fel cydnabyddiaeth o’r mentora a’r gefnogaeth chi’n ei rhoi i’r prentis yn eu hastudiaethau a’u dysgu.
Cysylltwch â ni a gallwn drefnu sgwrs i drafod pob dim gyda chi.
apprenticeships@stpadarns.ac.uk
Am fwy o wybodaeth am y brentisiaeth a’r cyflog ewch i https://www.gov.uk/national-minimum-wage-rates.
Cwestiynau Cyffredin
Sut alla i ddechrau'r broses?
Naill ai byddwch chi fel prentis neu eich cyflogwr yn cysylltu â ni ar: apprenticeships@stpadarns.ac.uk a rhoi gwybod: