Y 29ain Cynhadledd Crefydd a Diwinyddiaeth Ôl-radd Rhanbarth y De Orllewin a Chymru 2024
Y 29ain Cynhadledd Crefydd a Diwinyddiaeth Ôl-radd Rhanbarth y De Orllewin a Chymru 2024
Dydd Iau, 13 Mehefin 2024
Athrofa Padarn Sant, 54 Heol Caerdydd Caerdydd, CF5 2YJ
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Crefydd a Diwinyddiaeth Ôl-radd Rhanbarth y De Orllewin a Chymru eleni, Ddydd Iau 13 Mehefin 2024 yn Athrofa Padarn Sant, Caerdydd. Bydd y gynhadledd ôl-radd sydd wedi ei chynnal ers nifer o flynyddoedd, a bellach yn ei nawfed flwyddyn ar hugain, yn agored i fyfyrwyr prifysgolion a cholegau Diwinyddol yng Nghymru a De Orllewin Lloegr (Bryste, Caerwysg, Caerdydd, Bangor, Caerloyw, Southampton ayb) a thu hwnt. Nod y gynhadledd yw cynnig lleoliad cyfeillgar a chroesawgar i ôl-raddedigion cael rhannu eu gwaith.
Rydym yn gwahodd papurau ar unrhyw bwnc diwinyddol, crefyddol neu ddisgyblaeth berthnasol, ac o unrhyw safbwynt. Dylai papurau a gynigir fod nid yn hirach na 20 munud o hyd. Bydd bob papur a dderbynnir yn cael eu gosod mewn panel gyda phapurau sy’n trafod themâu tebyg. Bydd gan bob panel gadeirydd fydd yn sicrhau bod y papurau yn rhedeg yn llyfn ac yn hwyluso’r sesiwn holi ac ateb.
Bydd Athrofa Padarn Sant yn cynnig llety AM DDIM i gyfranogwyr ar gyfer nos Fercher 12 Mehefin a nos Iau 13 Mehefin. Gan fod llety yn gyfyngedig, bydd ystafelloedd yn cael eu dethol ar sail gyntaf i’r felin. Bydd brecwast a chinio yn cael ei ddarparu ar y diwrnod ac mi fydd derbyniad gyda gwin gyda’r nos.
I gynnig papur i'w hystyried cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion isod a chynnwys; teitl, amlinelliad tua 200 gair, sefydliad, a chwrs yr astudir erbyn 14 Ebrill 2024.