Diweddariad o Ganllawiau COVID Padarn Sant 2022
Drwy gydol Pandemig COVID-19 rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein gweithagredd dal i gael ei chynnal tra hefyd yn sicrhau ein bod yn cadw pobl yn ddiogel, pu'n ai hynny'n staff, dysgwyr neu unrhyw un arall sy'n dod i gyswllt â Phadarn Sant drwy ein gweithgarwch. Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi gweithio o gartref yn bennaf gyda ein gweithgarwch wedi ei gwneud ar-lein.
Rydym yn dilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru yn agos wrth i'r cyfnod clo ddod i ben.O fis Medi ymlaen mi fyddwn yn ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb.
Mae dioglewch ein dysgwyr, staff ac unrhyw un arall sy'n dod i gyswllt a Phadarn Sant drwy ein gweithgarwch yn bwysig dros ben i ni, ac felly mae rhai cyfyngiadau mewn lle er mwyn sicrhau ein bod cadw amgylchedd diogel a glân.
Mae'r llyfrgell ar agor ond mae cyfyngiadau ar y nifer o bobl all fod yno ar yr un adeg, felly yn ystod adegau prysur mae'n bosib bydd rhaid aros eich tro cyn gael mynediad.
Bydd angen i ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle ddilyn y canllawiau isod:
Mae diogelwch pobl yn bwysig iawn i ni ac rydym yn ei gymryd o ddifrif, ac ac mae'r canllawiau isod wedi cymryd o'n asesiad risg a ddatblygwyd yn dilyn ymgynhori gyda staff. Rydym yn gofyn eich bod yn dilyn y rhain er mwyn diogelwch eraill yn ogystal â diogelwch eich hun.
Y pethau allweddol i gofio er mwyn osgoi cael eich heintio yw:
- Cadw pellter – byddwch yn ofalgar o'r pobl sydd o'ch cwmpas
- Golchi dwylo / defnyddio diheintydd yn aml, mae unedau hylif diheintio wedi eu lleoli mewn sawl man yn yr adeilad.
- Bydd ffenestri ar agor er mwyn sicrhau cylchedriad aer da, pediwch a chau nhw. Mae'n bosib y bydd angen gwisgo dillad fwy cynnes.
*Yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth ni fydd belllwch yn ofynnol i wisgo mwgwd / gorchudd gwyneb yn unrhyw weithgaredd Padarn Sant. *
Gallwch weld ein holl ganllawiau COVID yma:
Canllawiau COVID Athrofa Padarn Sant - Dysgwyr
Canllawiau COVID Athrofa Padarn Sant- Tiwtoriaid Cysylltiol
Canllawiau COVID Athrofa Padarn Sant - Staff
Peidiwch ag ymweld â Phadarn Sant os ydych wedi profi'n bositif ar gyfer coronafeirws neu yn profi unrhyw symptomau, neu bod angen i chi hunan ynysu o dan rheoliadau Llywodraeth Cymru.
Rydym yn argymell yn gryf y dylai pobl wneud prawf llif unffordd (lateral flow test) cyn cyrraedd.