Helen Shepherd yn cyflwyno ei hadroddiad i'r Corff Llywodaethu ar Weinidogaeth Arloesol
Fe gyflwynodd Helen Shepherd ei hadroddiad ar Weinidogaeth Arloesol ac fe soniodd am lwyddiant cynhadledd Llais a gynhaliwyd yn mis Ebrill eleni.
Trefnwyd Llais 2019, gan Athrofa Padarn Sant, adain hyfforddi’r Eglwys yng Nghymru. Cafodd ei gadeirio gan Esgob Bangor, Andy John.
Dywedodd yr Esgob ar y pryd, “Mae gweinidogaeth arloesol yn golygu cysylltu gyda’r gymuned y tu hwnt i’r eglwys – cyfarfod pobl ble bynnag y maen nhw yn hytrach na disgwyl iddyn nhw ddod i adeilad yr eglwys ar y Sul. O weithio gyda ffermwyr mewn marchnad wartheg i deuluoedd difreintiedig ar ystadau tai, mae’n harloeswyr yn adeiladu cysylltiadau gyda’r gymuned ehangach ac yn chwilio am fyrdd dychmygus i rannu ffydd a datblygu cymuned Gristnogol sy’n addas ar gyfer y grwpiau hyn."
Ymunodd Jonny Baker sy’n bennaeth hyfforddi cenhadaeth gyda Chymdeithas Genhadol yr Eglwys ar cynadleddwyr.
Tanlinellodd Helen Shepherd bwysigrwydd y weinidogaeth arloesol i ddatblygiad yr eglwys i gymuned ehangach and sy'n dod i gyswllt ag eglwys draddodiadol.