Adolygiad o Ddatblygiad Gweinidogion
Mae gan yr Eglwys yng Nghymru gyfrifoldeb am ofal bugeiliol a datblygiad proffesiynol ei weinidogion, tra bo’r Clerigwyr yn atebol i Dduw am y weinidogaeth a roddwyd yn eu gofal, ac i’r Eglwys ac i’w gilydd am y ffordd y caiff ei gweinyddu.
Yr Eglwys yng Nghymru sy’n gweinyddu’r Cynllun MDR ar gyfer gweinidogion, ac mi fydd cynllun newydd i Weinidogion Lleyg Trwyddedig ( gan gynnwys Darllenwyr) wedi ei gynllunio i ddechrau gweithredu ar draws y dalaith erbyn diwedd 2024.
Nod yr adolygiad yw annog:
- proses barhaus o fyfyrio a dysgu ar sail cadarnhad ac atebolrwydd
- diwylliant o ddysgu a datblygiad gweinidogol gydol oes
- myfyrio ar ymarfer gweinidogol
- gosod amcanion heriol, ond rhai y gellir eu cyflawni
Un o nodweddion allweddol yr adolygiad o ddatblygiad gweinidogion yw trafodaeth wedi’i harwain gydag adolygydd, y cyfeirir ati’n aml fel y ‘Cyfarfod Adolygu’. Mae hyn yn rhoi cyfle pwysig i weinidogion rannu eu myfyrdodau, eu mewnwelediadau a’u gobeithion gydag eraill sy’n gyfrifol am eu llesiant a’u twf yn y weinidogaeth. Mae’n creu cyfle i fyfyrio ar y flwyddyn a aeth heibio a dathlu a rhoi diolch am bob dim a fu’n dda. Yn yr un modd, mae hefyd yn rhoi cyfle i gydnabod yr hyn nad aeth cystal, ac i nodi lle y mae angen cyfarwyddyd a chefnogaeth ychwanegol o bosibl.
Mae gweinidogion yn gweithio mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau ar draws yr Eglwys yng Nghymru, ond bydd pob un wedi gwneud yr un addewidion i’w Hesgobion pan gawsant eu Hordeinio:
A fyddwch yn ddyfal yn eich gweddïau, wrth astudio’r Ysgrythurau, ac wrth barhau i baratoi eich hun ar gyfer gweinidogaeth yn yr Eglwys?
Mae’r adolygiad o ddatblygiad gweinidogion yn ceisio annog gweinidogion i ailedrych ar yr addewidion hynny, ac i fyfyrio ar eu perthnasedd i’w harferion a’u cyd-destun gweinidogol presennol.
Ffurflen Adolygiad o Ddatblygiad Gweinidogion
Mae ffurflen benodol ar gael sy’n cyflwyno’r fframwaith ar gyfer y broses adolygu gweinidogion. Mae’r ffurflen yn cynnwys tudalen flaen sy’n cynnwys enw’r gweinidog a’r cyd-destun gweinidogol, ynghyd ag enw a theitl yr adolygydd a dyddiad y Cyfarfod Adolygu. Dyluniwyd y cynllun cyfan i fod yn electronig yn bennaf, gyda chanllawiau i helpu i sicrhau ei fod wedi’i gwblhau o fewn amserlen benodol.
I'r rheiny sy'n cwblhau'r ffurflen MDR am y tro CYNTAF defnyddiwch y ffurflen canlynol yma:
I'r theiny sydd eisoes wedi cwblhau ffurflen MDR yn flaenorol defnyddiwch y ffurflen canlynol; yma
Yn ddelfrydol, dylai’r esgobaeth wneud y cysylltiad cychwynnol â’r gweinidog cyn i’r broses ffurfiol ddechrau a thrafod eu hadolygydd arfaethedig gydag ef/gyda hi. Os yw’r gweinidog yn anhapus gyda’r adolygydd a awgrymir, dylai gysylltu â Swyddfa’r Esgob. Fel arall, dylai’r gweinidog a’r adolygydd gytuno rhyngddynt ar ddyddiad y Cyfarfod Adolygu. Yn dilyn hynny, bydd hyn yn cael ei gofnodi ar Ffurflen Adolygu, y gellir ei hanfon wedyn at y gweinidog a bydd y broses wedi dechrau.
Mae’r Ffurflen Adolygu wedi’i rhannu’n 4 Rhan.
Y Broses Adolygu Datblygiad Gweinidogion
Monitro’r Cynllun Adolygiad o Ddatblygiad Gweinidogion
Er bod y gwaith o weinyddu’r cynllun yn gyfrifoldeb i bob esgobaeth unigol, mae Athrofa Padarn yn gyfrifol am fonitro a nodi unrhyw batrymau hyfforddi cyffredinol sy’n dod i’r amlwg.
Bydd pob esgobaeth yn anfon canlyniadau bob chwarter at Athrofa Padarn.
Dylid gwneud hyn yn electronig gan ddefnyddio ffurflen benodol sydd ar gael i’w lawrlwytho yma:
Hyfforddiant ar gyfer Adolygwyr
Mae’r adolygwyr yn chwarae rhan allweddol yn y broses adolygu. Dylai’r esgobaethau wneud y cysylltiad cychwynnol â’r gweinidog i’w cynghori ynghylch enw’r adolygydd a fydd yn eu harwain drwy’r broses.
Os yw’r gweinidog yn anhapus gyda’r adolygydd a awgrymir am unrhyw reswm, dylai gysylltu â Swyddfa’r Esgob. Fel arall, bydd dyddiad y Cyfarfod Adolygu yn cael ei gytuno, a gall y broses ddechrau.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan yr holl adolygwyr posibl y sgiliau a’r hyfforddiant priodol. Mae’r gyfres ganlynol o sesiynau tiwtorial ar gael i helpu’r adolygwyr a rhoi’r sgiliau iddynt ymgymryd â’r dasg, a gellir cael mynediad atynt ar unrhyw adeg
Yn ystod y sesiynau tiwtora canlynol, defnyddir y term ‘offeiriad’ neu ‘glerig’ mewn ambell i le yn hytrach na’r term cynhwysol sef ‘gweinidog’. Cafodd y fideos hyn eu cynhyrchu pan mai dim ond clerigion oedd yn cael eu hadolygu. Cofiwch serch hyn, y bydd pob Gweinidog yn lleyg ac ordeiniedig yn cael eu cynnwys fel rhan o’r Cynllun Adolygiad o Ddatblygiad Gweinidogion ( MDR Scheme) o’r 1 Ionawr2025. Mae cynnwys y fideo yn berthnasol os ydych yn hyfforddi i wneud adolygiadau o glerigion neu Weinidogion Lleyg / Darllenwyr.
Trosolwg o'r Cynllun MDR
Dechreuwch wrth wylio’r fideo isod sy’n cynnwys gwybodaeth gefndirol bwysig am y cynllun, ynghyd â chanllawiau am beth mae’r Eglwys yng Nghymru yn gobeithio ei gyflawni drwy’r cynllun MDR.
Mae’r fideo wedi ei wahanu mewn i dair adran ac mae’n para 48 munud:
- Cefndir y Cynllun MDR
- Beth rydyn ni’n gobeithio ei chyflawni drwy’r broses MDR
- Cyfweliad ag Archesgob Andrew yn cynnig ei farn ef o bwysigrwydd MDR
Fideo MDR
Hyfforddiant Ychwanegol
Byddwch yn gweld 7 fideo hyfforddi isod, wedi'i cynllunio i ddilyn y fideo uchod.Mae'r rhain yn cynnwys: