Datblygiad i Weinidogion
Datblygiad Parhaus i Weinidogion, Clerigion a Darllenwyr / Gweinidgion Lleyg Trwyddedig
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i greu diwylliant o ddysgu gydol-oes ymysg ei chlerigwyr; gan gynnwys Darllenwyr a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig (LLM’s) ac mae Athrofa Padarn Sant yn gweithio’n agos gyda chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru er wyn allu cefnogi’r dysgu hwn.
Athrofa Padarn Sant sydd a’r cyfrifoldeb dros hyfforddiant a phrosiectau, ynghyd â hyfforddiant craidd sydd yn gyffredin yn yr esgobaethau i gyd megis cyrsiau cyn-ymddeol a’r cynllun Adolygu Datblygiad yn y Weinidogaeth (MDR). Bydd y chwe esgobaeth yn ychwanegu at hyn gyda’u diwrnodau hyfforddiant eu hun ar gyfer eu Clerigion, Darllenwyr ac LLM’s sydd wedi ei deilwra at gyd-destunau, anghenion a gweledigaethau penodol yr esgobaeth.
Yn ychwanegol i ddatblygiad proffesiynol a datblygu’r weinidogaeth mae Athrofa Padarn Sant hefyd yn rhannu adnoddau ymarferol, gwybodaeth a chymorth i glerigion a LLM’s i alluogi gweinidogaethu mewn amrywiaeth o gyd-destunau ar draws Cymru.
Gellir gweld fwy o wybodaeth ar rhai o feysydd allweddol Datblygu a Chefnogi’r Weinidogaeth isod. Os and ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn sydd ei hangen, neu os hoffech fwy o wybodaeth ar unrhyw agwedd o Ddatblygu’r Weinidogaeth ym Mhadarn Sant cysylltwch gyda ni:
Adolygiad o Ddatblygiad yn y Weinidogaeth (MDR) i Esgobion
Goroesi a Ffynnu yn ystdo cyfnod canol Gweinidogaeth
Gweinidogion Lleyg Trwyddedig
Cwrs Cyn-ymddeoliad
Os hoffech unrhyw wybodaeth pellach am Ddatblygiad y Weinidogaeth cysylltwch:
Tim Datblygiad Parhaus i Weinidogion
Parch Chris Burr - Cyfarwyddwr Datblygiad Parhaus i Weinidogion
Parch Ddr Catherine Haynes – Tiwtor Datblygiad Parhaus i Weinidogion
Veronica Cottam – Cydlynydd Dysgu Gydol Oes
Tel: 02920 838005