Hafan Rhwydweithiau Gweinidogaeth a Chenhadaeth Cymraeg Wrth y bwrdd - Grawys

Wrth y bwrdd - Grawys

Wrth y Bwrdd trwy’r Grawys

Ers dechrau’r pandemig mae Esgobaeth Bangor wedi bod yn cynhyrchu amlinelliadau o addoliad syml i deuluoedd ifanc medru addoli gyda’i gilydd yn y tŷ, o gwmpas y bwrdd. Cyhoeddwyd amlinelliadau ‘Wrth y Bwrdd | At the Table’ ar wefan yr esgobaeth yn wythnosol.

Ond, yn ystod y Grawys mae’r addoliad yma wedi cael ei chynnal ar Zoom yn fyw. Mae Esgobaeth Bangor wedi bod yn defnyddio rhai o ddywediadau ‘Myfi yw’ yr Iesu trwy’r Grawys i fyfyrio arnynt ac mae sesiynau Wrth y Bwrdd wedi defnyddio’r un patrwm.

Mae’r sesiynau yn cael ei recordio ac yna ei llwytho i sianel YouTube yr Esgobaeth er mwyn bod pawb yn medru ymuno hyd yn oed os nad oeddent yn gallu mynychu’r sesiwn byw. Dim ond teuluoedd gyda phlant ifanc sy’n cael mynychu’r sesiynau byw er mwyn diogelu’r plant. Nid yw unrhyw blant, ond am rai’r person sy’n arwain y sesiwn, yn ymddangos yn y fideo.

Mae’r plant sydd wedi ymuno wedi tyfu mewn hyder wrth ymateb i gwestiynau dros yr wythnosau ac mae’n hyfryd clywed gan y rhieni bod sgyrsiau yn digwydd trwy gydol yr wythnos am yr hyn maent wedi trafod ar y Sul.

Ni fydd y sesiynau yma yn parhau ar ôl y Pasg er rydym yn ystyried ei chynnal eto dros dymhorau pendant – e.e. adfent/gwyliau’r haf.

Padlet

Wrth drafod gydag Arweinyddion yr Ardaloedd Weinidogaeth o gwmpas yr esgobaeth daeth yn glir bod yna gofyn am ffordd i rannu adnoddau, amlinelliadau gwasanaeth a syniadau. Daethom ni o hyd i wefan o’r Padlet sy’n gweithio fel bwrdd pin. Mae’n bosib llwytho gwaith gwreiddiol ac y i greu linc i wefannau ac adnoddau ar-lein ac mae unrhyw un yn medru gwneud hyn.

Mae’r esgobaeth wedi creu sawl tudalen gwahanol sy’n canolbwyntio ar wahanol dymhorau’r flwyddyn (Adfent a Nadolig, Y Grawys i Pasg) a hefyd ar rannau gwahanol o weinidogaeth (Gwaith plant a theuluoedd).