Dysgu i Dyfu

Sut mae'n gweithio?
Mae Dysgu i Dyfu wedi ei greu i alluogi a sbarduno'r gymuned Gristnogol a hynny drwy gyfres o adnoddau dwyieithog sy'n hwyluso gweinidogaeth a bywyd Cristnogol mewn cyd-destun Gymreig.
- Gweddi'r Arglwydd
- Bedydd
- Ewcarist

- Gweithio gyda Pobl Ifanc
- Ymweliadau Bugeiliol (Ar gael yn electronig yn unig)
- Arwain Addoliad (Ar gael yn electronig yn unig)
- Eglwys i'r Dyfodol

- Cyflwyniad i astudio amrywiaeth o lyfrau'r beibl e.e Efengyl Luc

Beth gewch chi wrth gofrestru?
Wrth gofrestru i redeg cwrs Dysgu i Dyfu, fe gewch chi’r canlynol:
Fersiwn electronig o’r cwrs i’w ddefnyddio gan holl aelodau’r grŵp
Tri chopi caled o’r cwrs yn rhad ac am ddim
Copi caled o’r modiwl ‘Sut i Arwain Grŵp Dysgu i Dyfu’ i’ch helpu i redeg eich grŵp
Yr opsiwn o brynu rhagor o gopïau caled o’r teitl am £5 yr un
Cysylltiad â thiwtor Dysgu i Dyfu drwy gyfrwng Moodle, sy’n fodd ichi ofyn unrhyw gwestiynau a all fod gennych
Cysylltiad â grŵp Facebook caeedig ar gyfer cynnal trafoaethau grŵp cyn ac ar ôl eich sesiynau