MA Astudiaethau Caplaniaeth

Rhaglen unigryw
Mae rhaglen Astudiaethau Caplaniaeth Athrofa Padarn Sant yn ddatblygiad unigryw sy'n cefnogi caplaniaid sydd mewn gwasanaeth yn eu harferion a'u gweinidogaeth. Rydym yn cynnig addysg ôl-raddedig mewn astudiaethau caplaniaeth ar y cyd â chyrff proffesiynol perthnasol. Bydd ein rhaglen yn ehangu’ch syniadau a’ch ymwybyddiaeth o’r agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar eich gwaith.
O gofio’n 20 mlynedd o brofiad o baratoi caplaniaid o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a’r tu hwnt, mae digon o resymau da dros ymuno â ni yn Athrofa Padarn Sant.
Gwyliwch y fideo isod i weld profiad un o'n Caplaniaid Iechyd a Gofal o'r cwrs
Un o'r Caplaniaid Iechyd a Gofal yn sôn am ei brofiad o'r cwrs
Un o'r Caplaniaid Milwrol yn sôn am ei brofiad o'r cwrs
Caplan Iechyd a Gofal yn sôn am y cwrs

Ein Rhaglen Meistr
Mae rhaglen Astudiaethau Caplaniaeth Athrofa Padarn Sant yn canolbwyntio ar ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus uwch i gaplaniaid ond fe all fod yn addas i rai eraill.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i roi hyblygrwydd ichi. Mae'r MA cyfan yn cymryd tair blynedd yn rhan-amser. Fel arall, gallwch gofrestru ar gyfer y Dystysgrif un flwyddyn neu'r Ddiploma dwy flynedd fel y dangosir yn y tabl isod.
Blwyddyn 1 - Tysytysgrif Ôl-raddedig | Blwyddyn 2 - Diploma Ôl-raddedig | Blwyddyn 3 - Gradd Meistr |
---|---|---|
Ymchwil a Myfyrio | Safbwyntiau a Sgiliau ym maes Caplanaieth | Traethawd Hir |
Materion Moesol ym Maes Caplaniaeth | Byw Cenhdaeth Cyhoeddus | |
Caplaniaeth a Chenhadaeth Crsitnogol | Ymarfer Myfyriol |
Modiwlau blwyddyn un
Materion moesol
A chithau’n gaplan, rydych yn treulio llawer o'ch diwrnod yn gwneud penderfyniadau anodd. Bydd hyfforddiant ôl-raddedig mewn moeseg yn miniogi’ch gwaith meddwl, yn rhoi hwb i'ch hyder, ac yn eich galluogi i ddeall safbwyntiau’ch cydweithwyr. Mae'r modiwl hwn yn archwilio ffynonellau syniadau moesegol a dulliau moesegol. Cewch gyfle i ymchwilio i fater yng nghyd-destun eich sefydliad, eich ffydd a’ch cymdeithas chi.

Safbwyntiau a Sgiliau mewn Caplaniaeth
Mae lleoliadau caplaniaeth heddiw yn newid yn gyflym ac yn gofyn ymatebion hyblyg. Bydd y modiwl hwn nid yn unig yn cyflwyno dulliau amrywiol o gaplaniaeth ond yn gwerthuso’u cryfderau a'u rhagdybiaethau sylfaenol. Mae'n beirniadu caplaniaeth yn ei chyd-destun ehangach o globaleiddio, amrywiaeth ac anghydraddoldeb. Bydd yn eich paratoi i ddefnyddio adnoddau diwinyddiaeth ymarferol ar y rheng flaen.
Dulliau Ymchwilio
Gan ddarparu sylfaen mewn ymchwil, mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o'r sgiliau astudio y bydd arnoch eu hangen i astudio ar lefel fwy datblygedig. Bydd yn eich helpu i lunio cynnig ymchwil ac yn gwneud synnwyr o sut mae ymchwil yn llywio polisïau ac arferion. (Mae'n ddewisol i'r rhai sydd ar y Dystysgrif)!
Modiwlau blwyddyn dau
Ymarfer Myfyriol: Perthnasoedd a Rheolaeth Emosiynol mewn Gweinidogaeth
Rydyn ni am wneud popeth posibl i'ch galluogi i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol. Gwnawn hyn drwy ystyried materion sy'n ymwneud â straen mewn gweinidogaeth, gwydnwch ac arferion diogel. Byddwn yn rhoi offer ichi i archwilio'r pwnc. Yna, byddwch yn trafod yr hyn rydych chi am ysgrifennu amdano'n fanylach. Dyma gyfle gwych i rannu profiadau o gaplaniaeth gydag eraill.

Caplaniaeth a Chenhadaeth Gristnogol
Nid mater syml bob amser yw gwneud synnwyr o'n perthynas â'r eglwys sy’n ein hanfon (neu’n cymuned ffydd arall) a'n rôl mewn caplaniaeth. Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle ichi ddyfnhau’ch dealltwriaeth o wreiddiau hanesyddol caplaniaeth, a'i pherthynas â diwinyddiaeth a diwylliant. Bydd yn eich helpu i fyfyrio'n feirniadol ar eich rôl.
Ymarfer Myfyriol: Byw yn y Weinidogaeth Gyhoeddus
Gall cynrychioli cymuned ffydd a gwneud hynny'n llwyddiannus fod yn her. Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i fynd i'r afael â dealltwriaeth ddyfnach o'n ffurfiant a'n diben. Bydd yn eich paratoi ar gyfer mwy o arweiniad yn eich sefydliad ac yn dangos posibiliadau ichi ar gyfer caplaniaeth nad ydych efallai wedi'u hystyried.
Blwyddyn tri

Traethawd hir mewn Astudiaethau Caplaniaeth (MA yn unig)
Mae'r modiwl triphlyg hwn yn gyfle ichi brofi bod yn ymchwilydd. Gyda chymorth goruchwylydd, byddwch yn cytuno ar bwnc. Yna cewch gyfle i lywio llyfrgelloedd ymchwil a phwyllgorau moeseg cyn gweithio gyda chyfranogwyr. Bydd eich traethawd hir 15,000 o eiriau yn rhywbeth gwerth yr ymdrech! Os gwnewch chi’n dda, fe allai fod yn gam cyntaf tuag at MPhil neu Ddoethuriaeth!
Yn Athrofa Padarn Sant, rydym yn cynnig gwaith dysgu sydd wedi'i dargedu ar eich arbenigedd chi. Bydd y mwyafrif o'ch modiwlau'n cael eu hastudio gyda chymheiriaid sy’n gweithio yn yr un maes neu faes tebyg. Ceir cyfle hefyd i astudio ochr yn ochr â chaplaniaid sy'n gwasanaethu mewn sectorau eraill, er enghraifft addysg, iechyd, y fyddin, carchar, chwaraeon. Rydym yn arbennig o falch mai ni sy’n dal contract cenedlaethol y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 1999.
Cwrs a Gyflwynir i Ateb Anghenion Pobl Broffesiynol sy'n Gweithio
I ateb anghenion pobl broffesiynol sy'n gweithio, mae’r addysgu’n digwydd mewn pedwar bloc dwys bob blwyddyn. I gwblhau’r MA Astudiaethau Caplaniaeth, mae’n rhaid ichi gwblhau chwe modiwl a addysgir a thraethawd hir 15,000 o eiriau. Ym mlwyddyn tri, fe'ch anogir i fynychu'r cyfnodau preswyl fel aelodau o'n cymuned ddysgu a gweithio ar eich traethawd hir gyda mynediad i'r llyfrgell a’r staff addysgu.
Mae’r cyfnodau preswyl yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Mercher ar ein safle yng Nghaerdydd lle mae gennyn ni lyfrgell helaeth ac ystafelloedd addysgu â chyfarpar da. Mae croeso ichi addoli ochr yn ochr ag aelodau o'n coleg diwinyddol yn ein capel deniadol.
Mae ffioedd y cwrs yn cael eu rhannu ar draws y 3 mlynedd. I fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2021 y canlynol fydd y ffioedd
Cymhwyster | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
---|---|---|---|
PGCert | £3500 | Ddim yn berthnasol |
Ddim yn berthnasol |
PGDip | £3500 | £3500 |
Ddim yn berthnasol |
MA | £3500 | £3500 | £1000 |
Mae llety en-suite ar gael ar y safle am gost o £180 bob cyfnod preswyl, sy’n cynnwys pob pryd bwyd.
Mae’r rhaglen ar hyn o bryd yn mynd drwy broses dynodi cwrs er mwyn galluogi myfyrwyr i fod yn gymwys ar gyfer Cyllid i Fyfyrwyr.
Mae ffioedd cymorth ar gael ia aelodau yr Eglwys yng Nghymru. I gael fwy o wybodaeth cysylltwch â: durham.admissions@stpadarns.ac.uk
Sut i wneud cais
Y meini prawf mynediad arferol yw gradd 2:1 gyda dwy flynedd o brofiad o gaplaniaeth neu radd 2:2 gyda phrofiad proffesiynol sylweddol. Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, cysylltwch â ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael ichi.
Diwedd mis Gorffennaf yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.