Gwybodaeth Ceisiadau Astudiaethau Ôl-radd
Mae’r rhaglenni a gyflwynir gan Athrofa Padarn Sant yn ace leu dilysu gan Brifysgol Durham drwy bartneriaeth Common Awards. Gellir gweld gwybodaeth bellach am y bartneriaeth fan hyn
Mae Athrofa Padarn Sant wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses derbyniadau yn hawdd cael mynediad ato, yn deg, dryloyw, yn gyson ac yn rhoi profiad ymgeisio o safon dda i bob dysgwr.
Gwybodaeth bellach
Os ydych angen gwybodaeth bellach am unrhyw un o’n cyrsiau ôl-radd cysylltwch â
Tina Franklin Cydlynydd Rhaglenni ôl-radd:
tina.franklin@stpadarns.ac.uk
Gallwch hefyd gael fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ôl-radd wrth glicio ar ei deitl isod:
Meini Prawf Derbyniadau
Dyma’r meini prawf mynediad ar gyfer rhaglenni ôl-radd
- MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth, a Cenhadaeth[1]
- MA Astudiaethau Caplaniaeth
- MA Cyfraith Eglwysig
Y meini prawf ar gyfer mynediad ar gyfer rhaglenni yw:
- Dylai ymgeiswyr feddu ar, neu ddisgwyl ennill, o leiaf gradd anrhydedd ail ddosbarth y DU mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth neu bwnc perthynol Neu
- Dylai ymgeiswyr feddu ar, neu ddisgwyl ennill gradd anrhydedd ail-ddosbarth y DU neu gyfwerth ac o leiaf Tystysgrif Addysg Uwch mewn
Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth, neu bwnc perthynol Neu - Dylai ymgeiswyr feddu ar, neu ddisgwyl ennill o leiaf gradd ail-ddosbarth y DU (2:2) neu gyfwerth a phrofiad sylweddol ( o leiaf dwy flynedd)
mewn maes perthnasol. Neu - Profiad perthnasol sylweddol a darn o waith ysgrifenedig ar bwnc wedi’i gytuno gan Arweinydd y Rhaglen sydd yn arddangos ymgysylltiad ac
un maes astudio, y gallu i ddarllen, meddwl ac ysgrifennu ar lefel addas i ddechrau cymhwyster lefel 7.
1 Yn cynnwys llwybr i arbenigwyr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Ffioedd
Gellir gweld ffioedd ar gyfer pob rhaglen ar dudalen penodol y cwrs. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ddechrau bob tymor ar gyfer 1/3 o ffioedd y flwyddyn ac ar gyfer costau cyfnodau preswyl ac arlwyo.
Os ydych yn dymuno gwneud trefniadau gwahanol ar gyfer llety a /neu brydiau bwyd, cysylltwch Tina Franklin ar
tina.franklin@stpadarns.ac.uk
Mae trefniadau cyllid mewn lle ar gyfer y myfyrwyr yn hynny sy’n astudio rhaglen ôl-radd fel rhan o’i llwybr academaidd a gytunwyd ar gyfer ei hyfforddiant cychwynnol i’r weinidogaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru.Gall aelodau o’r Eglwys yng Nghymru fod yn gymwys ar gyfer cymorth gyda ffioedd.
Gall myfyrwyr arall fod yn gymwys ar gyfer benthyciadau myfyrwyr / grantiau drwy Cyllid Myfyrwyr. I ddod o hyd i gwybodaeth am y wlad chi'n byw cysylltwch â'r swyddfa Cyllid Myfyrwyr perthnasol:
Myfyrwyr Lloegr: https://www.gov.uk/apply-online-for-student-finance
Myfyrywyr Cymru: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/
Myfyrwyr yr Alban: https://www.saas.gov.uk/
Myfyrwyr Gogledd Iwerddon: https://www.studentfinanceni.co.uk/
Cysylltwch â Kathryn Delderfield am fwy o fanylion:
kathryn.delderfield@stpadarns.ac.uk
Gwneud Cais
I gael pecyn cais, cysylltwch gyda Tina Franklin, Cydlynydd Rhaglenni Ôl-radd ar:
tina.franklin@stpadarns.ac.uk neu 02920 838009
Bydd pob cais yn cael eu hystyried yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Derbyniadau Athrofa Padarn Sant. Gweler fan hyn
Gwybodeth arall bydd ei hangen cyn gwneud cais
Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau yn berthnasol i’r cwrs chi’n ei hastudio ac i’r broses ymgeisio i astudio ym Mhadarn Sant. Mae'r rhain yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig I; Polisi Cefnogaeth Dysgu, Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth , Cod Ymddygiad, Cytundeb Dysgwyr. Gellir gweld y rhain fan hyn
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler gwybodaeth ar sut mae Athrofa Padarn Sant yn defnyddio eich data fan hyn