Dechrau Caplaniaeth

Trosolwg o'r Cwrs Dechrau Caplaniaeth
Mae Dechrau Caplaniaeth yn gwrs sefydlu pum diwrnod i gaplaniaid sydd yn gweithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Fe’i cynlluniwyd yn seiliedig ar brofiad ac anghenion caplaniaid newydd i’r swydd. Mae Dechrau Caplaniaeth yn atgyfnerthu rhaglenni sefydlu mewnol a rheolaeth leol.
Mae’r cwrs yn cefnogi caplaniaid ac yn annog nhw i fod yn ymarferwyr diogel ac effeithiol, sy’n medru gwneud cyfraniad arbennig. Mae Dechrau Caplaniaeth wedi ei ddatblygu ar Fframwaith Gymwyseddau yr UKBHC. Croesewir ceisiadau gan unrhyw Gaplaniaid neu wirfodddolwyr, waeth beth yw eu crefydd neu gred.
Mae ein hystafelloedd trafod wedi’i hwyluso er mwyn galluogi myfyrwyr i weithio ochr yn ochr â chyfoedion â phrofiadau tebyg.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad academaidd
Wrth roi ei pholisïau, gweithdrefnau a gweithgaredd ar waith, fe sicrha Padarn Sant ei bod yn rhoi ystyriaeth i alluogi cyfranogaeth lawn gan bob myfyriwr ag anableddau ym mhob agwedd o’i fywyd academaidd a chymdeithasol.
Sut Gyflwynir Dechrau Caplaniaeth
Er mai rhaglen preswyl yw’r cwrs yn arferol, fel ymateb i gyfyngiadau Covis-19, byddwn yn cyflwyno’r cwrs ym mis Mawrth 2021 drwy gyfrwng Zoom. Bydd dysgu yn cynnwys cyflwyniadau ar-lein a thrafodaethau grŵp myfyriol. Bydd yna hefyd gyfle ar gyfer rhwydweithio anffurfiol.
Fe gynllunnir yr amserlen mewn cydweithrediad â chyfranogwyr blaenorol.
Mae’r amserlen yn seiliedig ar barthau o Fframwaith Gallu a Chymwyseddau NES yr Alban i Gaplaniaid Iechyd a Gofal (ac un o’n rhai ni!)

Dyddiadau y Cyrsiau Nesaf
Dyddiad | Hyd y Cwrs |
---|---|
Dydd Sadwrn 6 Mawrth - Dydd Mercher 10 Mawrth 2021 | 5 diwrnod (yn gorffen 12.30pm 10 Mawrth) |
Dydd Sadawrn 9 Hydref - Dydd Mercher 13 Hydref 2021 | 5 diwrnod (yn gorffen 12.30pm 13 Hydref) |
Dydd Sadwrn 5 Mawrth - Dydd mercher 9 Mawrth 2022 | 5 diwrnod (yn gorffen 12.30 pm 9 Mawrth 2022) |
Ffioedd ar gyfer Dechrau Caplaniaeth

Ein ffioedd ar gyfer Dechrau Caplaniaeth ar-lein ym Mawrth 2021:
- Caplaniaid: £650 (30 lle)
- Caplaniaid Gwirfoddol £150 (2 lle) yn dilyn derbyn tystiolaeth o Gytundeb Gwirfoddol
Mwy o wybodaeth ac Ymgeisio
Mae Dechrau Caplaniaeth yn agored i unrhyw Gaplan / Cynorthwywyr I Gaplaniaid / Gofalwyr Ysbrydol â phrofiad o lai na dwy flynedd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 26 Chwefror.
Os hoffech hyfforddiant mwy sylweddol, yn dilyn dwy flynedd o brofiad fel caplan, gallwch ymgeisio ar ein rhaglen ôl-radd sef MTh Astudiaethau Caplaniaeth
Gan ein bod a dros 20 mlynedd o brofiad o alluogi caplaniaid ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt mae yna ddigon o resymau dros ymuno gyda ni ym Mhadarn Sant.