Diweddariad Covid-19 Athrofa Padarn Sant

Yn unol â’r cyfarwyddwyd gan y llywodraeth mae safle Padarn Sant Caerdydd wedi cau tan ein bod yn derbyn gwybodaeth bellach. Mae hyn yn golygu na fydd mynediad gan ddysgwyr i’r prif adeilad (heblaw am y 4 unigolyn sy’n byw ar y safle i gasglu post) y capel na’r llyfrgell. Serch hyn, nid yw hyn yn golygu bod Athrofa Padarn Sant wedi cau. Mae dal yn bosib i chi gysylltu gyda ni ar y rhif ffôn a chyfeiriad e-bost arferol neu drwy ein ffurflen gyswllt fan hyn
Os ydych yn ddysgwr gyda Phadarn Sant bydd arweinydd eich rhaglen yn cysylltu â chi cyn hir i rannu fwy ar sut y byddwn yn bwriadu cyflwyno’ch rhaglen chi dros yr wythnosau nesaf. Mae croeso i chi gysylltu ag Anna yn y llyfrgell fydd yn medru rhannu manylion adnoddau ar-lein cynyddol sydd ar gael i chi, ac mi fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Mae’n adeg anodd ond er y bydd eich profiad o Badarn Sant yn wahanol dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn gweithio’n galed i’ch cefnogi chi â’ch dysgu a hyfforddiant.