Diweddariad Covid-19 ac Athrofa Padarn Sant
Bydd rhaglenni B.T.h a M.T.h Caplaniaeth yn cael eu cyflwyno ar-lein yn ystod tymor yr haf 2020. Bydd y digwyddiadau hynny nad sydd wedi digwydd yn cael eu haildrefnu ar gyfer yr Hydref. Lles ein dysgwyr a’n staff yw ein prif bwysigrwydd. Rydym yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru yn fanwl. Os gellir trefnu digwyddiadau addysgu wyneb yn wyneb yn ddiogel mi fyddant yn cael eu cynnal. Os nad yw hynny’n bosibl yna bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal ar ffurf electronig. Byddwn yn asesu bob digwyddiad / rhaglen addysgu ac yn ystyried y ffordd orau o’i chyflwyno yn nhymor yr Hydref.
Yn unol â’r cyfarwyddwyd gan y llywodraeth mae safle Padarn Sant Caerdydd wedi cau tan ein bod yn derbyn gwybodaeth bellach. Mae hyn yn golygu na fydd mynediad gan ddysgwyr i’r prif adeilad (heblaw am y 4 unigolyn sy’n byw ar y safle i gasglu post) y capel na’r llyfrgell. Serch hyn, nid yw hyn yn golygu bod Athrofa Padarn Sant wedi cau. Mae dal yn bosib i chi gysylltu gyda ni ar y rhif ffôn a chyfeiriad e-bost arferol neu drwy ein ffurflen gyswllt fan hyn
Os ydych yn ddysgwr gyda Athrofa Padarn Sant byddwn yn eich diweddaru ar sut fydd eich rhaglen addysgu yn cael ei gyflwyno cyn gynted ac a bydd penderfyniadau wedi ei gwneud. Os oes gennych unrhyw bryderon, trafodwch nhw gyda eich