Diweddariad Coronavirus

Mae staff Athrofa Padarn Sant yn monitro’r sefyllfa newidiol ynghylch Coronavirus yn agos, gyda’r nod i ddilyn cyngor iechyd gan y llywodraeth, y ffordd ehangach mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymdrin â’r firws ac ymateb y ddwy brifysgol rydym ni'n parterniaethu gyda hwy.
Y sefyllfa bresennol, yn unol â’n prifysgolion ydy; y bydd ein rhaglenni yn parhau'r wythnos hon ‘ fel yr arfer’, gyda ffocws clir ar drefniadau hylendid, a hefyd ar unigolion sydd yn teimlo’n sâl i ‘hunan ynysu’ yn unol â chyngor meddygol. Yn y cyfamser byddwn yn rhoi cynlluniau yn ei lle ar gyfer yr wythnosau nesaf ac yn diweddaru dysgwyr cyn gynted â phosib. Mae’n glir erbyn hyn, y bydd hyn yn broblem sydd yn para misoedd, ac nid wythnosau, ac mi fyddwn yn canolbwyntio ar gynlluniau i gefnogi ein dysgwyr drwy gydol y cyfnod hwn.