Cynllun Datblygiad yn y Weinidogaeth (MDR) i Esgobion

Trosolwg
Bydd yr Adolygiad o Ddatblygiad yn y Weinidogaeth (MDR) yn gyfrwng i hwyluso trafodaeth dan arweiniad ynghylch gweinidogaeth yr esgob. Pwrpas yr adolygiad yw edrych yn ôl a myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd dros y deunaw mis diwethaf o weinidogaeth a defnyddio hynny i gynllunio, rhagweld a datblygu gweledigaeth fwy eglur ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Wrth edrych yn ôl mae cyfle i gydnabod popeth y gallwn fod yn ddiolchgar amdano a’r pethau hynny sy'n destun gofid. Wrth edrych ymlaen mae cyfle i ragweld gofynion newidiol y rôl, nodi amcanion i’r dyfodol, a sefydlu meysydd ar gyfer datblygiad posibl
Mae MDR wedi'i seilio ar y rhagdybiaeth bod pob gweinidog yn atebol i Dduw am y weinidogaeth a roddwyd yn eu gofal, ac i’r Eglwys ac i’w gilydd am y ffordd y caiff ei gweinyddu. Mae atebolrwydd yn cynnwys parodrwydd i dyfu a datblygu ar sail profiad a'r hyn a ddysgwyd o’r profiad hwnnw. Yr elfennau sylfaenol yw cadarnhad, anogaeth a her yn ogystal â chytundeb i gynllunio ar gyfer twf a datblygiad personol yn y weinidogaeth.
Mae MDR yn ceisio annog gweinidogion i ailystyried yr addewidion a wnaed adeg eu hordeinio i "ymroi i weddi ac i astudio'r Ysgrythur Lân ac i gymhwyso eich hunain ar gyfer gweinidogaeth yr Eglwys" ac i fyfyrio ar berthnasedd yr addewidion hyn wrth arfer eu gweinidogaeth yn eu cyd-destun presennol. Cynhelir adolygiad bob deunaw mis o leiaf ac mae wedi'i gynllunio i annog:
- proses barhaus o fyfyrio a dysgu yn seiliedig ar gefnogaeth, craffu, cadarnhad ac atebolrwydd
- diwylliant o ddysgu gydol oes a datblygiad yn y weinidogaeth
- myfyrdod ar arferion gweinidogol
- gosod amcanion heriol, ond cyraeddadwy
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y manylion isod, cysylltwch â’r Parchedig Ganon Dr Trystan Owain Hughes, Cyfarwyddwr Datblygiad Gweinidogaeth.
Llyfryn a FFurflenni ar gyfer MDR Esgobion
Mae’r Ffurflen Adolygu wedi’i rhannu’n 4 Rhan
Y Broses MDR
Hyfforddiant ar gyfer Adolygwyr
Mae’r adolygwyr yn chwarae rhan allweddol yn y broses adolygu. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan yr holl adolygwyr posibl y sgiliau a’r hyfforddiant priodol. Mae’r gyfres ganlynol o sesiynau tiwtorial ar gael i helpu’r adolygwyr a rhoi’r sgiliau iddynt ymgymryd â’r dasg, a gellir cael mynediad atynt ar unrhyw adeg.
Yn ystod y sesiynau tiwtora canlynol, defnyddir y term ‘offeiriad’ neu ‘glerig’ mewn ambell i le yn hytrach na ‘esgob’. Mae cynnwys y fideos yr un mor berthnasol i adolygwyr sy’n cael eu hyfforddi i adolygu esgobion. Sylwer bod y tiwtorialau hyn yn ymwneud â’r broses MDR yn gyffredinol yng Nghymru. Felly, byddant yn ddefnyddiol i chi, ond ar gyfer manylion penodol y broses ar gyfer yr esgobion Cymru, rhowch flaenoriaeth i’r wybodaeth yn y llyfryn MDR ar gyfer Esgobion.
Fideos Hyfforddiant
Byddwch yn gweld 7 fideo hyfforddi isod, wedi'i cynllunio i er mwyn eich helpu chi i baratoi ar gyfer y sgwrs adolygu.
1.Sut i lunio adolygiad gwych ar y cyd (32 mun)
Beth ydym ni'n gobeithio ei gyflaawni o'r drafodaeth?
2.Beth sy’n gwneud cwestiwn gwych? (5 mun)
Sut i ofyn cwestiynau yn fedrus? A beth ydyn ni'n ei wneud â'r atebion?
3. Cadw’r esgobaeth a’r Deyrnas yn yr ystafell. (4 mun)
Dod â'r gymuned, yr esgobaeth a’r Deyrnas at ei gilydd yn eich sgwrs.
4. Sgyrsiau Bugeiliol ac Adolygiad. ( 7 mun)
Beth os oes mater bugeiliol yn codi?
5. Graslonrwydd a Gwirionedd. (5 mun)
Sicrhau fod her yn dod law yn llaw â Graslonrwydd.
6. Gwrando mewn ffordd wahanol. (7 mun)
Gwrando mewn ffordd sy’n golygu cael mewnwelediad Newydd
7. Cytuno ar nodau a bwriadau (6 munud)
Cytuno ar nodau cyraeddiadwy â'r unigolyn sy'n cael eu hadolygu.