Duw, Dysgwyr a Diod
Mewn datblygiad arloesol yn Esgobaeth Llanelwy, mae un o’n hymgeiswyr, Emma Dale, wedi cynorthwyo i drefnu gwasanaeth anffurfiol misol yn arbennig ar gyfer dysgwyr y Gymraeg. Meddai Emma, sy’n ddysgwr brwdfrydig ei hun, am y fenter:
Eglwys gaffi yw Duw Dysgwyr a Diod sydd wedi ei llunio ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae’n digwydd am bedwar y prynhawn ar Sul cyntaf y mis yn Neuadd yr Eglwys, Gwaun y Fflint (Gwernaffield) dan fy arweiniad innau a’r Parchedig Ganon Martin Batchelor. Rydyn ni’n croesawu dysgwyr o bob lefel, sy’n gallu bod yn heriol! Rydyn ni’n lwcus bod rhai siaradwyr iaith gyntaf yn ymuno â ni ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr o safbwynt adeiladu hyder a gallu.
Rydyn ni’n defnyddio litwrgi syml, yn canu ac yn gadael digonedd o amser i sgwrsio. Ein nod yw creu cymuned o addolwyr sydd am dyfu yn eu ffydd a’u gallu ieithyddol.
Roedd Siôn Aled Owen, Tiwtor mewn Diwinyddiaeth Gymreig, wedi ei ysbrydoli ar ôl ymweld â Duw, Dysgwyr a Diod:
Dyma’r union fath o fenter sydd angen digwydd ledled Cymru, sy’n dod â ffydd a’r diwylliant Cymreig a Chymraeg ynghyd mewn awyrgylch cynnes a hwyliog. Dw i’n dymuno pob llwyddiant i Duw, Dysgwyr a Diod ac yn edrych ymlaen at ymweld â mentrau tebyg (ond oll yn greadigol wahanol!) mewn ardaloedd eraill.