Dechrau Caplaniaeth
Trosolwg o'r Cwrs Dechrau Caplaniaeth
Mae Dechrau Caplaniaeth yn gwrs preswyl tri diwrnod ac wedi ei gynllunio yn benodol ar gyfer pobl sydd yn newydd i rôl caplaniaeth iechyd a gofal ysbrydol, bugeiliol a chrefyddol.
Mae’r cwrs yn addas i:
- Gaplaniaid gofal iechyd newydd
- Caplaniaid Gwirfoddol
- Caplaniaid Anrhydeddus
- Pobl sy’n archwilio gweinidogaeth caplaniaeth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol
- Staff sy’n gweithio ochr yn ochr â thimau caplaniaeth neu ofal ysbrydol
Nid oes unrhyw ofynion academaidd
Cynlluniwyd Dechrau Caplaniaeth I gynorthwyo cyfranogwyr i ddod yn ymarferwyr diogel, myfyrgar ac effeithiol. Caiff y cwrs ei wreiddio mewn ymarferoldeb gwaith caplaniaeth of fewn cyd-destun iechyd ac yn tynnu ar safonau proffesiynol a chymwyseddau disgwyliedig caplaniaid iechyd ffurfiwyd drwy safonau’r Cyngor (yr UHBHC gynt) Deyrnas. Gellir gweld nhw isod:
professional standards and capabilities expected of healthcare chaplains as formulated through the Council’s (former UKBHC’s standards).
| Maes Dysgu | Cynnwys |
|---|---|
| Ymarfer Broffesiynol |
Eglurder rôl a hanfod caplan gofal iechyd; ffiniau proffesiynol a chyfrinachedd, materion moesegol o fewn caplaniaeth gofal iechyd, amrywiaeth, cynhwysiant, niwroamrywiaeth, sensitifrwydd uchel a chyd-destunau amlblwyfol. |
| Ymarfer Gofal Ysbrydol |
Gwrando, cyfathrebu a sgiliau sgyrsiau bugeiliol, asesiad ysbrydol, gofal bugeiliol a chynllunio gofal, gofal ysbrydol sy’n ystyriol o drawma, athroniaethau dioddefaint, gwella a gobaith; ysbrydolrwydd yn y GIG; caplaniaeth mewn meysydd arbenigol. |
| Ymarfer Sefydliadol |
Caplaniaeth o fewn y GIG a strwythurau sefydliadol; caplaniaeth lles staff, dogfennaeth, casglu data a gwerthuso gwasanaeth, cyflwyniad i arwain, gweithio fel tîm a sgiliau rheoli i gyd-destunau Caplaniaeth. |
| Ymarfer Myfyriol |
Ymarfer myfyriol; myfyrio’n ddiwinyddol, hunanofal, gwytnwch personol, ffurfiant a goruchwylio. |
Caiff cynnwys y cwrs ei adolygu yn rheolaidd yn ôl datblygiadau mewn polisi gofal iechyd, ymchwil caplaniaeth ac adborth cyfranogwyr. Gall pynciau penodol amrywio ychydig o flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar arbenigedd penodol yr academyddion, ymarferwyr a chaplaniaid arbenigol sy’n cyfrannu at y cwrs. Caiff pob pwnc dan sylw eu harchwilio mewn perthynas â chyd-destun proffesiynol neu alwedigaethol y cyfranogwyr eu hunain.
Bydd dysgu yn cyfuno cyflwyniadau, trafodaethau, astudiaethau achos a grwpiau myfyriol. Bydd sesiynau myfyriol gyda’r nos yn rhoi’r cyfle i ddysgu ochr yn ochr â chyfoedion mewn amgylchedd cefnogol a chyfrinachol.
Sut Gyflwynir Cwrs Dechrau Caplaniaeth
Mae Dechrau Caplaniaeth yn gwrs preswyl tri diwrnod yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd
Mae’r llety yn en-suite ac mae bwyd wedi ei ddarparu ar y safle.
Cynlluniwyd y cwrs i gwrdd ag anghenion pobl broffesiynol a gwirfoddolwyr tra hefyd yn creu gofod ar gyfer myfyrio, sgyrsiau a chymuned.
Dyddiadau y Cyrsiau Nesaf
| Dyddiad | Hyd y Cwrs |
|---|---|
| 19-21 Mehefin 2026 | Dydd Gwener i Ddydd Sul |
| 26-28 Hydref 2026 | Dydd Llun i Ddydd Mercher |
Asesiad
Nid yw’r cwrs yn cael ei hasesu yn ffurfiol. Bydd cyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn derbyn tystysgrif i ychwanegu at eu cofnod Datblygiad Parhaus (CPD)
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Er bod Athrofa Padarn Sant ag ethos nodweddiadol Cristnogol, byddwch yn astudio gyda chaplaniaid proffesiynol, sydd o ra natur yn dueddol fod yn groesawgar a pharchus tuag at safbwyntiau amrywiol eraill. Rydyn ni fel arfer yn gorffen pob diwrnod gyda myfyrdod dewisol neu weddi, felly dewch ac unrhyw ddeunyddiau yr hoffech ddefnyddio gyda’r grŵp gyda chi.
Ffioedd ar gyfer Cyflwyno Caplaniaeth Gofal Iechyd
Y ffi ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yw:
- £490 pob dysgwr
Caiff lleoedd ar y cwrs eu cynnig ar sail gyntaf i’r felin ac yn dilyn derbyn taliad. Mae’r ffi yn cynnwys dysgu, llety a bwyd.
Mwy o wybodaeth ac Ymgeisio
Mae Dechrau Caplaniaeth yn addas i gaplaniaid a gwirfoddolwyr sydd â llai na dwy flynedd o brofiad.
Bydd y ffenest ymgeisio yn cau pedair wythnos cyn i'r cwrs ddechrau. I gofrestru eich diddordeb cliciwch isod
Datblygiad Proffesiynol Pellach
I’r rheiny sy’n edrych am hyfforddiant mwy dwys, mae Athrofa Padarn Sant hefyd yn cynnig cwrs Ôl-radd Caplaniaeth
Mae gan Athrofa Padarn Sant dros 23 blynedd o brofiad yn addysgu caplaniaeth ac fe adnabyddir ef fe darparwr blaenllaw yn hyfforddiant caplaniaeth arbenigol. Mae ein rhaglenni yn croesawu caplaniaid o amrywiaeth o sectorau gan gynnwys gofal iechyd, y fyddin filwrol, gwasanaethau brys, carchardai, addysg a chymunedol.