Parch Richard Lowndes
Cefais fy ngeni yn Sir Benfro ac fe wasanaethais yn Esgobaeth Tyddewi ac Esgobaeth Llandaf cyn symud i Loegr yn 1996 i fod yn Gaplan llawn amser mewn ysbyty. Rwyf wedi hyfforddi fel Therapydd sy’n canolbwyntio ar unigolion ac wedi cymhwyso fel Hyfforddwr Gweithredol.
Dychwelais i Gymru yn 2011 i fod yn Swyddog Hyfforddi a hyfforddiant Lleyg i Esgobaeth Llandaf cyn cael fy mhenodi yn Gyfarwyddwr Gweinidogaeth yn 2014. Rwy’n gweithio yn rhan-amser i Athrofa Padarn ar hyn o bryd ac yn gwirfoddoli ym Manc Bwyd Caerdydd.