Parch Ddr Jordan Hillebert
Ychydig amdanaf i
Yn wreiddiol o’r Unol Daleithiau, symudais i’r Alban yn 2011 i astudio Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol St Andrews dan oruchwyliaeth yr Athro John Webster. Yn 2015 fe gefais fy apwyntio yn Diwtor Diwinyddiaeth yng Ngholeg San Mihangel cyn ymuno â’r tîm ym Mhadarn Sant yn 2016 yn Diwtor Preswyl a Thiwtor Diwinyddiaeth. O 2016-2019, roeddwn hefyd yn gwasanaethu fel Curad Cynorthwyol i Eglwys Crist, Parc y Rhath. Yn ogystal ag addysgu ym meysydd diwinyddiaeth Gristnogol a moeseg, rwy’n goruchwylio’r gymuned llawn amser o ymgeiswyr ar gyfer y weinidogaeth ym Mhadarn Sant, Caerdydd. Rwy’n byw yn Llandaf gyda fy ngwraig Krisi a’n merch Keira, a’n corhelgi drygionus Willow.
Diddordebau Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud yn bennaf â meysydd diwinyddiaeth systematig a meddwl Cristnogol modern. Mae fy ngwaith diweddar wedi canolbwyntio’n benodol ar ddiwinyddiaeth Henri de Lubac and the Drama of Human Existence (Gwash Notre Dame, 2021)- fi yw golygydd y T&T Clark Companion to Henri de Lubac (2017). Mae fy niddordebau eraill yn cynnwys etifeddiaeth ddiwinyddol Augustine a Thomas Aquinas, anthropoleg Gristnogol, natur diwinyddiaeth, athrawiaeth creu, diwinyddiaeth ecolegol / moeseg amgylcheddol, natur diwinyddiaeth, gweddi a myfyrio, ac ymatebion diwinyddol i foderniaeth. Rwy’n falch bob amser o glywed gan ddarpar fyfyrwyr MPhil/PhD sydd â diddordeb yn yr uchod neu faes cysylltiedig.
Gwaith diweddar:
Being in Mystery: Henri de Lubac and the Drama of Human Existence (University of Notre Dame Press, 2021)
T&T Clark Companion to Henri de Lubac (T&T Clark, 2017)
‘Conviviality,’ in Mark Clavier, ed., A Convivial Church: Global Perspectives on Living Well with God, Creation, and Each Other (forthcoming, Wipf & Stock)
‘Henri de Lubac,’ in Philip Ziegler and R. David Nelson, eds., T&T Clark Handbook of Modern Theology (forthcoming, T&T Clark)
‘Introducing Henri de Lubac,’ Jordan Hillebert, ed., T&T Clark Companion to Henri de Lubac (T&T Clark, 2017), 3-27.
‘The Death of God and the Dissolution of Humanity,’ New Blackfriars 96, 1060 (2014): 674-88.
Cyrsiau a addysgir:
SPTH4003 Cyflwyno Athrawiaeth Gristnogol, Padarn Sant
SPTH5003 Archwilio Athrawiaeth Gristnogol, Padarn Sant
SPTH6003 Ymgysylltu Cristoleg o'r Testament Newydd i'r Credoau (Addysgu ar y cyd gyda Jeremy Duff)Padarn Sant
CWTH4004 Gwneud Diwinyddiaeth gyda'n gilydd, Padarn Sant
CWTH5002 Meddwl Moesegol Crsitnogol heddiw, Padarn Sant
CWTH5001 Diwinyddiaeth Awstin Sant, Padarn Sant
RTT202 Hwyluso Meddwl Moesol a dadl, Prifysgol Caerdydd
RT7317 Moeseg Cristnogol Cymdeithasol heddiw, Prifysgol Caerdydd
RT5204 Cred yn y Crwsibl (addysgu ar y cyd â Dr Craig Gardiner), Prifysgol Caerdydd
RT7107 Cyflwyniad i Gredoau Cristnogol, Prifysgol Caerdydd