Parch Helen Rees
Ychydig amdanaf i:
Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd. Ym 1999, graddiais gyda gradd Baglor mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Caerdydd. Gan fod fy nghyfenw cyn priodi yn un o rai olaf yr wyddor ro’n i’n un o raddedigion olaf y ganrif ddiwethaf!
Ar ôl graddio bûm yn gweithio fel darlithydd diwinyddiaeth rhan-amser ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, fel ag yr oedd ar y pryd. Yn ogystal â hyn, bûm yn gweithio fel marciwr allanol i Goleg Diwinyddol Spurgeon yn Llundain a darparu cyrsiau ar gyfer Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.
Cefais fy ordeinio’n Ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ym Mehefin 2009. Yn ystod yr un mis derbyniais radd Meistr mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cefais fy urddo’n offeiriad yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ym Mehefin 2010. Rwyf wedi gwasanaethu mewn nifer o blwyfi yn Esgobaeth Llandaf ac Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.
I mi, ystyr diwinyddiaeth yw galluogi’r Eglwys a’i haelodau i wybod mwy am ei ffydd. Dyna a’m harweiniodd i astudiaeth academaidd ac addysgu.
Addysgu
Mae fy addysgu wedi cwmpasu amrywiaeth o bynciau megis Hanes yr Eglwys, Cristnogaeth a chumuned a Menywod mewn Cristnogaeth. Mae fy mhrif faes ymchwil ac addysgu wedi bod o fewn astudiaethau Testament Newydd.
O fewn maes astudiaethau Testament newydd, fy mhrif ddiddordeb yw'r efengylau a'r epistolau Pedriadd.
Rwyf hefyd yn gyfrifol am addysgu Cyflwyniad i Addoli Anglicanaidd. Fel offeiriad ac aelod o'r Eglwys yng Nghymru drwy gydol fy oes rwy'n croesawu'r cyfle i ymchwilio addoliad.
Diddordebau Ywmchwil
Fy mhrif feysydd ymchwil o ddiddordeb yw'r Testament Newydd yn benodol epistol 1 Pedr, Addoliad Anglicanaidd a chymorth dysgu i'r rheiny sydd â gwahaniaethay dysgu. Fel tiwtor addysg ddiwinyddol rwyf ynghlwm â datblygu ein gweithdrefnau marcio a'r ddarpariaeth cymorth dysgu rydym ni'n ei gynnig.
Yn fy amser hamdden rwy'n hoff iawn i dreulio amser gyda fy nheulu gan gynnwys fy ngŵr Ian, llys-ferch Jessica, mab yng nghyfraith Gary a'n wyrion a wyres Jack, Ryan a Katie. Rwy'n mwynhau darllen a gwylio tîm rygbi Caerdydd, ac mae gennuf docyn tymor i'w gwylio.