Dr Elizabeth Corsar
Ychydig amdanaf i:
Ges i fy ngeni a fy magu yng Nghaeredin ac fe enillais fy ngradd israddedig, gardd meistr a Doethuriaeth o Brifysgol Caeredin. Yn ystod fy nghyfnod yn astudio fy ngradd israddedig fe ddatblygiad diddordeb yn yr efengylau ac yn enwedig y cwestiwn o’r modd mai’r pedair efengyl yn cydblethu. Fe arweiniodd hyn ataf yn astudio perthynas Ioan a Marc yn fy ymchwil doethur. Rwyf hefyd yn frwd dros addysgu, ac yn Gymrodor Cysylltiol Addysg Uwch Pellach. Cyn dod i Athrofa Padarn Sant roeddwn yn diwtor cyswllt yn Athrofa Esgobol yr Alban yng Nghaeredin ac yn addysgu Astudiaethau Beiblaidd. Ar wahân i fy ngwaith academaidd, rwy’n ystyried fy hun i fod yn arbenigwr ar gaws. Ryw’n gobeithio medru blasu gymaint o gaws o Gymru ac y gallaf, ac yn agored i awgrymiadau!
Diddordebau ymchwil:
Mae fy mhrif ddiddordeb ymchwil yn cwmpasu'r ymateb i destunau Cristnogol cynnar. Mae gen i ddiddordeb yn yr ymateb i efengylau Marc, Mathew a Luc yn efengyl Ioan; yr ymateb i’r efengylau canonaidd mewn testunau cynnar Cristnogol nad sy’n ganonaidd, a’r ymateb i lenyddiaeth Gristnogol ganonaidd ac anghanoniadd cynnar yn y 21ain Ganrif. Byddwn wrth fy modd i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn trafod y meysydd ymchwil hyn ymhellach.
Rwy’n aelod o fwrdd golygyddol y Scottish Episcopal Institute Journal ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas Testament Newydd Prydain, Cymdeithas Ewropeaidd Astudiaethau Beiblaidd a’r Gymdeithas Llenyddiaeth Feiblaidd
Uchafbwyntiau fy ngwaith
Bydd fy ymchwil doethurol John’s Reworking of Mark: A Study in Light of Ancient Compositional Practice yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.