Dr Corey Hampton

Rwyf yn dod yn wreiddiol o Tennessee ond wedi byw yng Nghymru ers 2013 ac wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl. Fe wnes i gwblhau PhD mewn diwinyddiaeth gyd-destunol Gymreig eleni trwy Brifysgol Aberdeen. Rwy’n byw yn Yr Wyddgrug gyda’m gwraig, Catrin, a’n tri mab bywiog. Yn fy amser hamdden, byddwch yn debygol o’m gweld i ar gefn beic ym Mryniau Clwyd, yn rhedeg llwybrau’r ardal, neu’n chwilio am y coffi a’r toes crwst (pastry) perffaith.
Rwyf wedi cael y fraint o wasanaethu mewn amryw weinidogaethau, gan weithio gyda phlant ac oedolion ifanc, yn ogystal â phregethu, gofal bugeiliol, a gwaith cenhadaeth ac efengylu — yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn fwyaf diweddar, bûm yn gwasanaethu fel Arweinydd Ffurfiant ac yn Diwtor mewn Diwinyddiaeth, Cenhadaeth a Gweinidogaeth gyda Church Army.