Yr Athro Canon Jeremy Duff i arwain Coleg Diwinyddol Emmanuel

Mae'r Canon Athro Jeremy Duff, Pennaeth Athrofa Padarn Sant, wedi'i benodi'n Ddeon newydd Coleg Diwinyddol Emmanuel, yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Bydd yn dechrau ar Fedi 1af.
Meddai Jeremy: "Mae wedi bod yn fraint enfawr i fod yn rhan o'r Eglwys yng Nghymru ers deng mlynedd, a sefydlu ac arwain Athrofa Padarn Sant. Rwyf wedi dysgu cymaint gan gydweithwyr a dysgwyr, yn eu holl amrywiaeth wych.
"Mae wedi bod yn bleser gweld Duw ar waith ar draws y genedl anhygoel hon, ac ym mywydau menywod a dynion ffyddlon sy'n ymateb i'w alwad. Ond nawr yw'r amser i mi hefyd ymateb i alwad newydd, i ddychwelyd at fy ngwreiddiau a defnyddio popeth rydw i wedi'i ddysgu yma i sefydlu Coleg Diwinyddol Emmanuel yn gadarn fel lle sefydlog, llawen, gyda dyfnder cenhadol, diwinyddol ac ysbrydol.
"Roedd y Gogledd Orllewin unwaith yn arloeswr ym maes addysg ddiwinyddol, gyda St Bees College yn Cumbria, a St Aidan's ym Mhenbedw, ond ers degawdau ni fu coleg diwinyddol Anglicanaidd parhaus, ffyniannus wedi'i wreiddio yn eu cymunedau, yn gwasanaethu cenhadaeth Duw yma. Rwy'n gwybod o waith Badarn Sant pa mor bwysig yw’r eglwys leol yn perchenogi ffurfiant, addysg ddiwinyddol a datblygiad gweinidogaethol, ac i beidio eu hystyried fel pethau sy’n digwydd 'yn rhywle arall'.
"Rwy'n gyffrous i weld beth y gellir ei gyflawni i’r Gogledd Orllewin drwy Emmanuel, o dan Dduw, a chyda chydweithwyr newydd, ac rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu gadael Padarn Sant â staff ymroddedig a gweithgar dan arweiniad uwch dîm rhagorol."
Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann:
"Mae Jeremy yn gadael gyda'n bendith a'n diolchgarwch am bopeth y mae wedi'i gyflawni yn Athrofa Padarn Sant ac yn yr Eglwys ehangach yng Nghymru. Ochr yn ochr â'i ddoniau fel addysgwr a chyfathrebwr, mae Jeremy wedi dod â doethineb, creadigrwydd ac egni i'w waith ac awydd bob amser am welliant parhaus. Bydd ei allu profedig i weithio ar draws y traddodiadau diwinyddol ac eglwysig yn gefn iddo yn ei rôl newydd ac yn ei waith ar draws esgobaethau Gogledd Orllewin Lloegr. Rydym yn cadw ef a'i deulu yn ein gweddïau wrth iddynt baratoi i ddechrau'r bennod newydd hon yn eu bywydau."
Meddai Esgob Llandaf, y Gwir Barchg Mary Stallard, sydd â chyfrifoldeb dros Bortffolio Gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru:
"Mae'r newyddion hyn yn gadarnhad gwych i Jeremy. Bydd yn gadael ei swydd ym Mhadarn Sant gyda'n diolch twymgalon am ei holl waith caled yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth. Mae ei gariad at ddysgu a'i ysgolheictod Beiblaidd ymroddedig, wedi helpu i ffurfio llawer o glerigion, ymgeiswyr a gweinidogion lleyg, ac i lunio patrymau taleithiol o ffurfiant a hyfforddiant. Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr a gweddïwn drosto ef a’i deulu ar yr adeg hon o newid a thrawsnewid."
Dywed Simon Lloyd, Prif Weithredwr y Corff Cynrychioladol:
"Rwy'n ymuno ag eraill i longyfarch Jeremy ar ei benodiad fel Deon Coleg Diwinyddol Emmanuel. Roedd Jeremy, fel y Pennaeth sefydlu Padarn Sant, yn allweddol wrth droi'r weledigaeth ar gyfer yr athrofa yn realiti gweithredol. Mae ei gydweithwyr ym Mhadarn Sant a'r tîm staff ehangach yn y Corff Cynrychiolwyr yn dymuno'r gorau iddo yn ei rôl newydd."
Mae Jeremy yn briod â Jill sy'n Esgob Caerhirfryn ac mae ganddynt ddau fab.