Goroesi a Ffynnu yn ystod cyfnod canol Gweinidogaeth

Mae’r cwrs unigryw hwn yn cynnig amser a lle i stopio, myfyrio rhannu a gweddïo - Mae’r cwrs wedi ei gynllunio yn benodol i glerigion sydd wedi gwasanaethu am o leiaf pymtheg mlynedd o weinidogaeth ordeiniedig.
P’un ai ydych yn teimlo pwysau blynyddoedd o weinidogaeth neu’n chwilio am adferiad, dyma’r cyfle i ail gysylltu â’ch pwrpas gyda’r rhai sy’n deall y daith, a gyda’r Duw sy’n parhau i’ch galw chi ymlaen.
Pam mynychu?
- Myfyrio – ar eich gweinidogaeth a’ch galwedigaeth hyd yn hyn
- Adfer – mewn amgylchedd diogel a cefnogol
- Ail-werthuso eich sgiliau, talentau a’ch galwad
- Ail-gysylltu â Duw a chyd glerigion
Beth i’w ddisgwyl
- Trafodaethau grŵp bach
- Amser am fyfyrio personol
- Sesiynau meddwl wedi eu hwyluso
- Cyfleoedd i weddïo ac addoli
- Gofod i ystyried:
- Beth fu
- Beth sydd
- Beth sydd i ddod
Lle a phryd
Dyddiad | Lleoliad |
---|---|
13 – 15 Hydref 2025 |
Gwesty’r Metrepole, Llandrindod |
Lleoliad cyffyrddus a heddychlon i gefnogi chi ar eich taith fyfyrdod ac adferiad
AM DDIM