Rhaglen Gweinidogaeth â Chyfrifoldebau Uwch (MER)

Trosolwg
Ydych chi'n glerig cyflogedig sy'n awyddus i ddatblygu eich gweinidogaeth, magu hyder, a dyfnhau eich ysbrydolrwydd?
Os felly, byddwch chi’n falch o glywed bod Athrofa Padarn Sant yn lansio rhaglen o 18 mis unigryw a chyffrous yn Hydref 2025.
Bydd ein Rhaglen MER newydd (Gweinidogaeth â Chyfrifoldebau Uwch) yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth benodol, ynghyd â mynediad at ystod eang o adnoddau a mentor personol. Ein nod yw gweld gweinidogion yn yr Eglwys yng Nghymru yn :
- tyfu yn fwy hyderus a chymwys o ran eu gweinidogaeth
- dyfnhau eu hysbrydolrwydd a'u hymdeimlad o bwrpas a galwad fel plentyn Duw
- ymdrin â heriau a chyfleoedd yn y weinidogaeth drwy ddarparu hyfforddiant a sgiliau ymarferol ar bynciau’n amrywio o reoli amser i reoli gwrthdaro
- rhannu eu taith a'u datblygiad fel gweinidog gan ddarparu cymorth parhaus iddynt drwy mentora personol a chymunedau dysgu lleol
Drwy gyfuniad o ddigwyddiadau preswyl, cymunedau dysgu bob deufis, cyfleoedd hyfforddi ar-lein misol, a mynediad at fentor personol, rydym yn cynnig cyfle i glerigion fyfyrio ar eu galwedigaeth, gwella eu sgiliau gweinidogaethol, a datblygu'n bersonol ac yn ysbrydol fel rhan o gymuned gefnogol sy’n rhoi anogaeth.
Beth mae’r rhaglen MER yn ei gynnwys?
Pryd mae'r rhaglen MER yn dechrau?
Mae'r rhaglen yn dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd 2025, a bydd yn parhau tan dymor y Gwanwyn 2027. Mae Ceisiadau ar gyfer y rhaglen MER newydd wedi cau bellach.