Dr Monika Benitan
Mae gennyf brofiad helaeth o waith bugeiliol ac academaidd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Rwyf hefyd wedi arwain timau mewn sawl gweinidogaeth gan gynnwys gwasanaethu fel pennaeth cangen Lloegr a Chymru o elusen gweinidogaeth plant, ymgynghorydd esgobaethol ar gyfer ffurfiant bugeiliol oedolion, yn gategydd ac yn gaplan prifysgol ac Ysbyty. Mae fy ngweinidogaeth hefyd wedi cynnwys gweithio fel Gweinidog Stryd, pregethwr lleyg, categydd, cyfarwyddwr canolfan encil yng Nghymru ac yn arweinydd uwch o adran fugeiliol yn canolbwyntio ar alluogi clerigion a phobl leyg yn ogystal â bod yn aelod o dimau galwedigaethau esgobaethol.
Hyfforddais fel athrawes yn wreiddiol yn Slofacia, ac yna fe euthum ymlaen i astudio athroniaeth a diwinyddiaeth ym mhrifysgolion Rhydychen a Lerpwl. Rwy wedi dysgu modiwlau ar ddiwinyddiaeth fugeiliol ym Mhrifysgol Hope Lerpwl ac wedi cydlynu rhaglen tystysgrif a diploma mewn gweinidogaeth fugeiliol mewn partneriaeth â Phrifysgol Loyola Chicago. Rwy’n Gydymaith Ymchwil yn Athrofa Ddiwinyddol Margaret Beaufort yng Nghaergrawnt a hefyd yn hwylusydd hyfforddedig, cyfarwyddwr ysbrydol a goruchwylydd - swyddi rwy’n parhau i wasanaethu yn fy amser sbâr.