Cyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd yn cael ei benodi
Mae Athrofa Padarn Sant yn falch o gyhoeddi penodi'r Parch Ddr Stephen Roberts yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd

Mae’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd yn rôl newydd o fewn Athrofa Padarn Sant a fydd yn rhan o’r Uwch Dim ac sydd â chyfrifoldeb dros holl rhaglenni academaidd yr athrofa.
Ar hyn o bryd mae Stephen yn Diwtor Diwinyddiaeth Ymarferol a Chenhadaeth yng ngholeg Bedyddwyr Caerdydd ac hefyd yn Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddo brofiad helaeth o ddiwinyddiaeth, addysg uwch, a gweinidogaeth Gristnogol. Magwyd yn Llundain ac fe astudiodd diwinyddiaeth yn Ngholeg Kings Llundain cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn Neuadd Wycliffe, Rhydychen. Gwnaeth ei guradiaeth yn esgobath Kilburn a Gorllewin Hampstead yn Llundain ac bu’n ficer tîm yn Uxbridge, Gorllewin Llundain cyn gwasanaethu fel Caplan ym Mrifysgol Brunel. Daeth i Gymru yn 2004 i fod yn Ddirprwy Pennaeth a Deon Hyfforddiant Preswyl yng ngholeg Mohangel Sant, Llandaf. Rhwng 2012 a 2018 ef oedd Darlithydd Uwch Diwinyddiaeth Fodern ym Mhrifysgol Chichester cyn gael ei benodi i’w swydd bresennol yn 2019. Ochr yn ochr a’o swydd bresennol mae’n lywydd i’r Grŵp Ymgynghorol Diwinyddol Rhyngffydd i Eglwysi Ynghyd Prydain ac Iwerddon ac yn Gadeirydd Sefydliad Diwinyddiaeth Ymarferol. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar ddiwnyddiaeth a cherddoriaeth ynghyd â ar astudiaethau caplaniaeth, perthynasau rhyngffydd a diwinyddiaeth ymarferol.
Dywedodd Stephen am ei benodiad; “Rwy’n hynod gyffrous I gael y cyfle i helpu llunio bywyd academaidd ym Mhadarn Sant, fel adnodd diwinyddol yr Eglwys yng Nghymru a thu hwnt, ac rwy’n teimlo ei fod yn anrhydedd mawr o gael cyfle I wneud hynny gyda grŵp o gydweithwyr talentog a achreadigol.” am really excited about this opportunity to help shape the academic life of St Padarn’s as a theological resource for the Church in Wales and beyond; and I feel incredibly privileged to have the chance to do that with such a talented and creative group of colleagues.”
Ychwanegodd y Canon Athro Jeremy Duff, Pennaeth Athrofa Padarn Sant; “Daw Stephen a’r holl ddoniau yr roeddem yn ei obeithio ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd. Mae ganddo brofiad ddofn fel diwinydd o fewn cyd-destun academaidd, ar ôl gweithio mewn amryw o golegau a phrifysgolion am dros pum mlynedd ar hugain. Mae’n deall y cyfleoedd a’r heriau o fewn y sector Addysg Uwch. Yn yr un modd mae ef hefyd wedi gwasanaethu fel offeiriad plwyf ac wedi ei wreiddio yn yr Eglwys yng Nghymru. Bydd y profiad sylweddol hwn yn sicrhau y bydd astudiaethau academaidd yn gwyro tuag at wasanaethu’r Eglwys, ac y bydd yn medru chwarae rhan llawn fela aelod o’r uwch dim ym Mhadarn Sant”.
Bydd Stephen yn dechrau yn ei swydd ar 1 Ebrill 2026