Cwrs Cyfeiriad Ysbrydol yr Eglwys yng Nghymru

Gwybodaeth am y cwrs
Bydd Athrofa Padarn Sant mewn partenriaeth â Choleg Sarum yn cynnig cwrs aml ddull ar Gyfeiriad Ysbrydol yn dechrau yn Ionawr 2026 a fydd yn para am 18 mis tan Mai 2027. Bydd cyfranogwyr yn mynychu tri modiwl preswyl yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd ac yn ymuno a grŵp ehangach yn fisol ar-lein
Nod y cwrs Cyferiad Ysbrydol hwn yw i alluogi y rheiny sydd wedi eu galw i’r weinidogaeth yma ac i fod yn gydymaith hyderus a chymwys i eraill. Mae’r cwrs wedi ei lunio i roi amgylchedd ddysgu gytbwys, gan gyfuno ffurfiant bersonol ac ysbrydol â datblygu sgiliau.
Mae’r cwrs dysgu o brofiad hwn wedi ei seilio ar ddiwinyddiaeth a datblygu ymarfer ac mi fydd mynediad at amrywiaeth eang o andoddau ar-lein drwy Lwyfan Moodle Coleg Sarum. Bydd y diwrnodau ar-lein misol hefyd yn cynnwys cyfranogwyr o’r Alban, Lloegr, ac Esgobaethau yn Ewrop. Caiff y cwrs ei hwyluso gan Arweinydd y cwrs Dr Pollyanna Magne.
Bydd cyfranogwyr yn derbyn cyfieirad ysbridol eu hunain ac fe fyddant yn barod yn rhan o weinidogaeth cyfeiriad ysbrydol neu'n agored i weinidogaeth o'r math hwn yn y dyfodol.
Ffioedd
Bydd y cwrs am ddim i'r rhai hynny sy'n gweinidogaethu yng Nghymru ac y bydd yn fodlon cynnig eu gwasanaethau fel Cyfarwyddwr Ysbrydol i'w esgobaeth. Mae hyn yn cynnwys mynediad at adnoddau ar-lein Coleg Sarum a llety a bwyd i'r ddau cyfnod preswyl.
Ur unig gost i gyfranogwyr o'r Eglwys yng Nghymru yw ar gyfer llyfrau darllen neu adnoddau na ddarperir gan Goleg Sarum ac unrhyw adnoddau arall y maen nhw'n dymuno eu prrynu a chostau teithio i'r cyfnodau preswyl.
Dyddiadau ar gyfer Cyfnodau Preswyl 2026/27
Dyddiad | Digwyddiad | Lleoliad |
---|---|---|
8-10 Ionawr 2026 | Cyfnod Preswyl Agoriadol | Athrofa Padarn Sant, Caerdydd |
14-16 Medi 2026 | Cyfnod Preswyl Canol Tymor | Coleg Sarum |
10- 12 Mai 2027 | Cyfnod Preswyl i Gloi'r Cwrs | Athrofa Padarn Sant Caerdydd |
Diwrnodau Dysgu Ar-lein 2026 – 2027
Date | Event |
---|---|
2 -3 Chwefror 2026 | Diwrnod Dysgu Canol-cwrs |
7-8 Ebrill 2026 | Diwrnod Dysgu Canol-cwrs |
8-9 Mehefin 2026 | Diwrnod Dysgu Canol-cwrs |
2-3 Tachwedd 2026 | Diwrnod Dysgu Canol-cwrs |
4-5 Ionawr 207 | Diwrnod Dysgu Canol-cwrs |
1-2 Mawrth 2027 | Diwrnod Dysgu Canol-cwrs |
Y Broses Ymgeisio
Nifer cyfyngedig o lleoedd sydd ar gael ac fe ofynnwn yn garedig i ymgeiswyr posib i gwblhau'r ffurflen Datganiad o ddiddordeb wrth wasgu'r botwm gwyrdd isod.
