English

Gwybodaeth am y cwrs

Bydd Athrofa Padarn Sant mewn partenriaeth â Choleg Sarum yn cynnig cwrs aml ddull ar Gyfeiriad Ysbrydol yn dechrau yn Ionawr 2026 a fydd yn para am 18 mis tan Mai 2027. Bydd cyfranogwyr yn mynychu tri modiwl preswyl yn Athrofa Padarn Sant Caerdydd ac yn ymuno a grŵp ehangach yn fisol ar-lein

Nod y cwrs Cyferiad Ysbrydol hwn yw i alluogi y rheiny sydd wedi eu galw i’r weinidogaeth yma ac i fod yn gydymaith hyderus a chymwys i eraill. Mae’r cwrs wedi ei lunio i roi amgylchedd ddysgu gytbwys, gan gyfuno ffurfiant bersonol ac ysbrydol â datblygu sgiliau.

Mae’r cwrs dysgu o brofiad hwn wedi ei seilio ar ddiwinyddiaeth a datblygu ymarfer ac mi fydd mynediad at amrywiaeth eang o andoddau ar-lein drwy Lwyfan Moodle Coleg Sarum. Bydd y diwrnodau ar-lein misol hefyd yn cynnwys cyfranogwyr o’r Alban, Lloegr, ac Esgobaethau yn Ewrop. Caiff y cwrs ei hwyluso gan Arweinydd y cwrs Dr Pollyanna Magne.

Bydd cyfranogwyr yn derbyn cyfieirad ysbridol eu hunain ac fe fyddant yn barod yn rhan o weinidogaeth cyfeiriad ysbrydol neu'n agored i weinidogaeth o'r math hwn yn y dyfodol.

Ffioedd

Bydd y cwrs am ddim i'r rhai hynny sy'n gweinidogaethu yng Nghymru ac y bydd yn fodlon cynnig eu gwasanaethau fel Cyfarwyddwr Ysbrydol i'w esgobaeth. Mae hyn yn cynnwys mynediad at adnoddau ar-lein Coleg Sarum a llety a bwyd i'r ddau cyfnod preswyl.

Ur unig gost i gyfranogwyr o'r Eglwys yng Nghymru yw ar gyfer llyfrau darllen neu adnoddau na ddarperir gan Goleg Sarum ac unrhyw adnoddau arall y maen nhw'n dymuno eu prrynu a chostau teithio i'r cyfnodau preswyl.

Dyddiadau ar gyfer Cyfnodau Preswyl 2026/27

Dyddiad Digwyddiad Lleoliad
8-10 Ionawr 2026 Cyfnod Preswyl Agoriadol Athrofa Padarn Sant, Caerdydd
14-16 Medi 2026 Cyfnod Preswyl Canol Tymor Coleg Sarum
10- 12 Mai 2027 Cyfnod Preswyl i Gloi'r Cwrs Athrofa Padarn Sant Caerdydd

Diwrnodau Dysgu Ar-lein 2026 – 2027

Date Event
2 -3 Chwefror 2026 Diwrnod Dysgu Canol-cwrs
7-8 Ebrill 2026 Diwrnod Dysgu Canol-cwrs
15-16 Mehefin 2026 Diwrnod Dysgu Canol-cwrs
2-3 Tachwedd 2026 Diwrnod Dysgu Canol-cwrs
4-5 Ionawr 207 Diwrnod Dysgu Canol-cwrs
1-2 Mawrth 2027 Diwrnod Dysgu Canol-cwrs

Y Broses Ymgeisio

Nifer cyfyngedig o lleoedd sydd ar gael fel arfer. Mae'r ffenest datgan eich diddordeb i wneud y cwrs wedi cau am y cwrs nesaf. Dewch yn ôl yn fuan i weld pryd bydd y cyfle nesaf i ddatgan eich diddordeb am y cwrs.

Y Tîm Datblygiad Parhaus i Weinidogion

CMDadmin@stpadarns.ac.uk
Ffôn: 02920 838005