English

Caiff Gweinidogion Lleyg Trwyddedig (a gyfeirir yn aml LLMs, term sydd hefyd yn cynnwys Darllenwyr Trwyddedig) eu galw i fyw eu ffydd Gristnogol mewn sawl cyd-destun. Efallai y bydd eu gweinidogaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar y cartref, y gymuned leol, y gweithle neu unrhyw rwydwaith cymdeithasol arall.

Yn aml bydd ganddynt lawer o gyfrifoldebau hefyd mewn eglwysi a byddant yn rhan allweddol o genhadaeth a gweinidogaeth yr eglwys, gan gynnwys gofal bugeiliol, arwain angladdau, pregethu a dysgu yn ogystal â swyddi arweiniol eraill a rennir yn aml gyda’r periglor.

Mae Athrofa Padarn yn gweithio’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Weinidogaeth, Swyogion LLM's/ Wardeiniaid i Ddarllenwyr yr esgobaeth, ac yn ymrwymedig i helpu a chefnogi Gweinidogion Lleyg Trwyddedig eraill a darparu adnoddau iddynt er mwyn iddynt allu ffynnu yn eu gweinidogaethau a’u datblygiad proffesiynol.

Adnoddau Defnyddiol gan Trawsnewid y Weinidogaeth (Transforming Ministry)

Prosiect hyfforddi yw Trawsnewid y Weinidogaeth sy’n annog dysgu gydol oes. Wedi’r cyfan, ni ddaw’r broses o ddysgu a datblygu i ben ar ôl i chi gael eich trwyddedu. Caiff pob un ohonom ein herio i barhau i ddysgu a meithrin ein ffydd. Mae Trawsnewid y Weinidogaeth yn darparu cymorth a hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar 3 haen o weinidogion lleyg trwyddedig:

  • Dysgu am Ffydd
  • Arwain yn yr Eglwys a’r Gymdeithas
  • Cyflawni Cenhadaeth

I gael gwybod mwy am yr adnoddau a’r rhai sydd ar gael ar-lein gan Trawsnewid y Weinidogaeth, cliciwch fan hyn

Mae adroddiad hefyd ar gael sy’n helpu i esbonio’r 3 haen o weinidogaeth drwyddedig yn fwy manwl sef ‘Sunday to Saturday Faith’, a gellir gweld copi ohono yma:

Digwyddiadau Taleithiol a Chynhadledd Cenedlaethol

Conference.jpg

Yn ystod y flwyddyn, mae Athrofa Padarn Sant yn cynnal digwyddiadau taleithiol I Ddarllenwyr a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig, mae un yn cael ei gynnal ar-lein fel arfer yn y Gwanwyn, a’r Gynhadledd Genedlaethol yn cael ei gynnal yn yr Hydref.

Diwrnod Cymorth Blynyddol Ar-lein

Bydd y Diwrnod Cymorth Blynyddol yn cael ei chynnal 9 – 11 Hydref 2026.

Swyddogion yr Esgobaeth sy’n gyfrifol am Ddarllenwyr/Gweinidogion Lleyg Trwyddedig

Esgobaeth Enw Cyfeiriad E-bost
Bangor Keith Wadcock keith.wadcock@outlook.com
Llandaf Duncan Ballard duncanballard@cinw.org.uk
Mynwy Helen Millard millard.h60@gmail.com
Llanelwy Alyson Goldstein alysongoldstein@churchinwales.org.uk
Tyddewi Mones Farah Archdeacon.Farah@churchinwales.org.uk
Abertawe ac Aberhonddu Justin Davies Justindavies26@gmail.com

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am weinidogaeth y Darllenwyr neu weinidogaethau Gweinidogion Lleyg Trwyddedig eraill, cysylltwch â:

Y Tîm Datblygiad Parhaus i Weinidogion

CMDadmin@stpadarns.ac.uk
Ffôn: 02920 838005