English

Corey Hampton.jpeg

Rwyf yn dod yn wreiddiol o Tennessee ond wedi byw yng Nghymru ers 2013 ac wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl. Fe wnes i gwblhau PhD mewn diwinyddiaeth gyd-destunol Gymreig eleni trwy Brifysgol Aberdeen. Rwy’n byw yn Yr Wyddgrug gyda’m gwraig, Catrin, a’n tri mab bywiog. Yn fy amser hamdden, byddwch yn debygol o’m gweld i ar gefn beic ym Mryniau Clwyd, yn rhedeg llwybrau’r ardal, neu’n chwilio am y coffi a’r toes crwst (pastry) perffaith.

Rwyf wedi cael y fraint o wasanaethu mewn amryw weinidogaethau, gan weithio gyda phlant ac oedolion ifanc, yn ogystal â phregethu, gofal bugeiliol, a gwaith cenhadaeth ac efengylu — yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn fwyaf diweddar, bûm yn gwasanaethu fel Arweinydd Ffurfiant ac yn Diwtor mewn Diwinyddiaeth, Cenhadaeth a Gweinidogaeth gyda Church Army.

Diddordebau Ymchwil

Mae fy PhD yn sefyll ar y croesfan rhwng diwinyddiaeth ymarferol a chyd-destunol, cenadaetheg, a diwinyddiaeth systematig, yn enwedig athrawiaeth Duw ac eglwysoleg. Rwyf hefyd â diddordeb yn y perthynas rhwng diwinyddiaeth a diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.

Gwaith wedi ei gyhoeddi

(2024) Review of (Un)Certain: A Collective Memoir of Deconstructing Faith by Olivia Jackson. Modern Believing 65(3), 309-10.

'Ash Wednesday: Matthew 6:1-6, 16-21' in Mair Jones and Aled Davies (eds.), The People's Church 2 (Chwilog: Cyhoeddiadau'r Gair, 2023). 'Proper Sunday 10: Ephesians 1:3-14' in Mair Jones and Aled Davies (eds.), The People's Church 2 (Chwilog: Cyhoeddiadau'r Gair, 2023).

Corey Hampton, 'Love in Truth and Action: 1 John 3:16-24' in Sundays with CWM 2021: Life-Flourishing Communities (Singapore: The Council for World Mission, 2021).

Gallwch gysylltu â mi ar:

Ffôn: 02920 563379