English

Chris Thomson 1.jpg

Rwy’n briod â’r Parch Ddr Donna Lazenby ac mae gennym ddau o fechgyn sy’n efeilliaid ac sydd yn llawn bywyd a digonedd o egni! Yn y byd seciwlar bûm yn rheolwr busnes yn Llundain am 16 mlynedd lle'r oedd mentergarwch ac arloesi yn rhan o’r arfer.

Mae fy ngweinidogaeth o fewn yr Eglwys wedi gorgyffwrdd â nifer o draddodiadau, oedrannau, cefndiroedd, diwylliannau a lleoliadau. Bûm yn Ddarllenydd trwyddedig ac yn Offeiriad Plwyf, ac rwyf wedi Plannu Eglwysi, yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Ymgeiswyr yn esgobaeth Southwark. Rwyf wedi lansio ffurfiau newydd o eglwysi (mewn amryw draddodiadau). Rwyf wedi gweithio fel Offeiriad Arloesol Ymgynghorol ar gyfer Esgobaeth Truro, cynorthwyo i blannu Rhwydwaith o Eglwysi Cenhadol ledled Cernyw er mwyn adfywio cenhadaeth a gweinidogaeth ac i atgyfnerthu tystiiolaeth yr Eglwys i genhedlaeth newydd. Rwyf hefyd wedi hwyluso cwrs plannu eglwysi yr Esgob Ric Thorpe ar gyfer Esgobaethau Caerwysg a Truro. Fel Efengylwr Digidol rwyf wedi galluogi nifer o Eglwysi ac esgobaethau i ystyried Technoleg Ddigidol fel dull o efengylu.

Rwy’n aelod o Goleg yr Archesgob o Efengylwyr, a fi hefyd oedd sylfaenydd sianel YouTube God Stories Today.

Rwy’n Hyfforddwr Twf Eglwysi ac wedi gweithio gyda nifer o eglwysi amrywiol yn Esgobaeth Llundain o bob traddodiad, i’w galluogi i gynllunio ar gyfer twf. Rwyf wedi fy ngalw i alluogi twf ledled Eglwys Dduw, ac i alluogi estyn allan ar gyfer 21ain ganrif. Rwy'n dyheu am weld datblygiad a thwf yn cyrraedd holl Eglwys a holl bobl Duw.

Diddordebau Gweinidogaethol

Rwy’n Offeiriad Efengylu Arloesol a gellir mynegi hynny mewn nifer o ffyrdd ond i fi roedd yn ynghlwm yn benodol â phlannu Eglwysi. Mewn ffordd fe ddaeth hwn fel syndod hyfryd wrth i fy ngweinidogaeth ddatblygu, gan ei fod yn arwydd o’r ddawn hon yn ystod fy mhroses o ddirnadaeth ac fe ddaeth yn ffocws imi.

Teimlaf fod galwad gennyf at alwedigaethau a datblygiad galwedigaethau ac rwy’n credu ei fod yn alwad sydd ynghlwm â phobl, datblygu cysylltiadau ac adfer cysylltiadau a chroesawu pobl o bob cefndir. Un o fy sgiliau yw adnabod doniau pobl a’u galluogi i feithrin y rhyddid I ddatblygu gweledigaeth newydd I’r dyfodol.

Mae gennyf ddiddordeb mawr yng ngrym y Stori yn benodol ar gyfer efengylu. Rwy’n mynegi hyn yn gyffredinol ar ffurf technoleg ddigidol a chyfweld pobl am Straeon Duw’n eu Bywyd.

Fy ngwaith ym Mhadarn Sant

Fel Cynullydd y Gymuned Arloesol a Thiwtor Hyfforddiant Cyd-destunol rwy’n bwynt cyswllt ar gyfer cefnogi a datblygu gweinidogaeth a gweinidogion arloesol yn yr Eglwys yng Nghymru, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau o leoliadau cyd-destunol o fewn hyfforddiant i’r weinidogaeth. Rhan arall o fy rôl yw cyfrannu at ddatblygiad patrymau gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, a rhwydweithio, annog, ysbrydoli a llunio cefnogaeth a datblygiad i weinidogion mewn tirlun cyfnewidiol a gweld unigolion yn datblygu yn eu galwedigaeth gyda hyder a’r sgiliau hanfodol.

Ffôn: 02920 563379