
Trosolwg
Ydych chi'n glerig cyflogedig sy'n awyddus i ddatblygu eich gweinidogaeth, magu hyder, a dyfnhau eich ysbrydolrwydd?
Os felly, byddwch chi’n falch o glywed y rhaglen o 18 mis unigryw a chyffrous gan bod Athrofa Padarn Sant yn Nhachwedd 2025. Bydd y rhaglen yn parhau tan Gwanwyn 2027.
Mae'r rhaglen MER (Gweinidogaeth â Chyfrifoldebau Uwch) yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth benodol, ynghyd â mynediad at ystod eang o adnoddau a mentor personol. Ein nod yw gweld gweinidogion yn yr Eglwys yng Nghymru yn :
- tyfu yn fwy hyderus a chymwys o ran eu gweinidogaeth
- dyfnhau eu hysbrydolrwydd a'u hymdeimlad o bwrpas a galwad fel plentyn Duw
- ymdrin â heriau a chyfleoedd yn y weinidogaeth drwy ddarparu hyfforddiant a sgiliau ymarferol ar bynciau’n amrywio o reoli amser i reoli gwrthdaro
- rhannu eu taith a'u datblygiad fel gweinidog gan ddarparu cymorth parhaus iddynt drwy mentora personol a chymunedau dysgu lleol
Drwy gyfuniad o ddigwyddiadau preswyl, cymunedau dysgu bob deufis, cyfleoedd hyfforddi ar-lein misol, a mynediad at fentor personol, rydym yn cynnig cyfle i glerigion fyfyrio ar eu galwedigaeth, gwella eu sgiliau gweinidogaethol, a datblygu'n bersonol ac yn ysbrydol fel rhan o gymuned gefnogol sy’n rhoi anogaeth.
Beth mae’r rhaglen MER yn ei gynnwys?
Cyfnodau Preswyl
Digwyddiadau Preswyl
Mae tri digwyddiad preswyl yn canolbwyntio ar ddatblygu ymhellach ein hymdeimlad o bwrpas a'n ffurfiant fel gweinidogion ac fel plant Duw a byddant yn cynnwys:
- Eglwysoleg
- Cenhadaeth (ffocws penodol ar genhadaeth gyd-destunol)
- Diwinyddiaeth Arweinyddiaeth Gristnogol
- Datblygu Ysbrydolrwydd ac Aeddfedrwydd Ysbrydol
Cynhelir y tri cwrs preswyl ar:
- 3-5 Tachwedd 2025
- 22-24 Mhefin 2026
- 19-21 Ebrill 2027
Mae mynychu'r tri cwrs preswyl hyn yn ddisgwyliad craidd i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglen.
Cymunedau Dysgu Bob Deufis
Bob dau fis, bydd y cyfranogwyr yn cwrdd ar ffurf cymunedau bach a chymryd rhan mewn ymarfer myfyriol, rhannu gwybodaeth, ac yn cefnogi datblygiad personol ac ysbrydol ei gilydd yn weddigar ac yn ymarferol.
Bydd y cymunedau dysgu yn canolbwyntio ar fapio datblygiad personol, meithrin hunanymwybyddiaeth ac ymarfer myfyriol, a hyrwyddo hunanofal a llesiant.
Disgwylir i gyfranogwyr flaenoriaethu presenoldeb yn y cymunedau dysgu hyn. Y gobaith yw y gall aelodau pob grŵp gytuno ar y dyddiadau.
Digwyddiadau Hyfforddi Ar-lein Misol
Mae cyfle bob mis i ymuno â digwyddiad hyfforddi ar-lein. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar hyfforddiant sgiliau, ac er bod disgwyl i gyfranogwyr ymgysylltu â'r rhain, mae'n annhebygol y bydd pob digwyddiad yn berthnasol i bob cyfranogwr.
Lle y bo'n bosibl, bydd arweinydd y rhaglen yn ymgynghori â chyfranogwyr i sicrhau bod yr hyfforddiant a gynigir yn gweddu orau i anghenion y garfan er mwyn gallu teilwra’r dysgu. Efallai y bydd cyfle hefyd i ddarparu elfennau o hyfforddiant wedi’u teilwra’n bwrpasol.
Isod mae enghreifftiau o'r hyfforddiant ar-lein sydd ar gael:
- Rheoli newid (canolbwyntio ar arwain eraill drwy newid)
- Galluogi arloesedd (galluogi eglwys arloesol/creadigol/alluog)
- Galluogi sgyrsiau effeithiol
- Sgiliau busnes
- Rheoli adeiladau
- Datrys gwrthdaro
- Gweinidogaeth Amlgynulleidfaol (gan gynnwys rheoli disgwyliadau!)
Mynediad at Fentor Personol
Bydd pob cyfranogwr yn cael ei baru â hyfforddwr a fydd yn ei dywys drwy'r rhaglen. Bydd eich hyfforddwr yno i'ch helpu i'ch cefnogi a'ch annog wrth i chi fynd ar eich taith, myfyrio a thyfu. Byddan nhw hefyd yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich ffydd a'ch gweinidogaeth.
Disgwylir y bydd hyfforddwyr ar gael i gyfarfod â chi wyneb yn wyneb ar wahanol adegau yn y rhaglen, ac i gyfranogwyr a hyfforddwyr gytuno ar y ffordd orau o gadw cysylltiad a pharhau i’ch cefnogi ar adegau eraill.
Pryd mae'r rhaglen MER yn dechrau?
Dechreuodd y rhaglen yn gynnar ym mis Tachwedd 2025, a bydd yn parhau tan dymor y Gwanwyn 2027. Mae Ceisiadau ar gyfer y rhaglen MER newydd wedi cau bellach.