English
  • Os oes gan y pâr blant eisoes, dylech eu cynnwys yn un o’r sesiynau paratoi a thrafod unrhyw syniadau sydd ganddyn nhw ynghylch sut i gymryd rhan yn y gwasanaeth
  • Os yw’r pâr yn cael morwynion ifanc, macwyaid neu gludwyr modrwyau, rhowch farc ar y llawr fel eu bod yn gwybod ble i sefyll ym mlaen yr eglwys
  • Os mai plentyn ifanc sy’n cludo’r modrwyau, mae’n well clymu’r modrwyau i’r glustog
  • Gall plant hŷn y pâr gerdded Mam i lawr yr eil hefyd, neu ddarllen neu ysgrifennu gweddïau ar gyfer y gwasanaeth
  • Drwy wahodd plant y pâr i sefyll gyda’u rhieni yn ystod y gweddïau neu’r fendith byddwch yn credu eiliad arbennig a chofiadwy tu hwnt, ac yn pwysleisio bod y briodas hon yn dynodi dechrau newydd i’r teulu cyfan.

Syniad arall fyddai gwahodd y plant i sefyll yn ystod y gwasanaeth (ychydig cyn yr addunedau) a gofyn iddyn nhw:

“Ydych chi, blant x ac y, yn ymddiried y naill i’r llall wrth iddyn nhw gyflwyno eu hunain i briodi?”

Mae hyn yn gweithio’n dda. Hefyd, gwahoddwch blant y pâr i ddod gyda nhw pan rwy’n gwneud y gweddïau. Rydw i hefyd wedi gofyn iddyn nhw ysgrifennu eu gweddi eu hunain.