Iaith Arwyddion Prydain yw pedwaredd iaith frodorol Prydain, a ddefnyddir gan aelodau byddar ac aelodau sy’n clywed o’r gymuned fyddar.
Yn aml bydd pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn mynd at eu Caplan lleol, neu weinidog arbenigol i bobl fyddar i gynnal eu priodas yn Iaith Arwyddion Prydain. Fodd bynnag, weithiau fe fyddan nhw’n dewis priodi yn eglwys y plwyf, neu eglwys y mae ganddyn nhw gysylltiadau cryf â hi ac efallai y byddan nhw angen dehonglwr ar gyfer y seremoni.
Efallai y bydd gan y pâr ffrindiau byddar sy’n dymuno dod i’r briodas ac efallai y bydd angen iddyn nhw weld y dehonglwr er mwyn gallu tystio’r briodas yn iawn.
Does dim unrhyw ofyniad cyfreithiol i ddefnyddio dehonglwr iaith arwyddion mewn priodas lle mae’r briodferch a/neu’r priodfab yn fyddar, ond yn amlwg mae’n bwysig bod y pâr yn deall y gweinidog a bod y gweinidog yn deall ymatebion y ddau. Mae’n bwysig iawn siarad â’r pâr am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i deimlo’n hyderus yn eu priodas.
Os oes dehonglwr yn cael ei ddefnyddio mae angen ystyried lle i’w leoli yn yr eglwys fel y gall pobl weld a deall. Weithiau, bydd angen dau ddehonglwr os yw’r Briodferch/Priodfab ac aelodau’r gynulleidfa’n fyddar.
Mae dehonglwyr iaith arwyddion yn weithwyr proffesiynol sydd wedi derbyn llawer o hyfforddiant a bydd angen talu am eu gwasanaeth yn union fel unrhyw un arall sy’n gwneud swydd broffesiynol mewn priodas. Os yw’r briodferch a/neu’r priodfab yn fyddar ac yn gofyn am ddehonglwr ar gyfer eu priodas ni ddylid disgwyl iddyn nhw dalu am y dehonglwr. Os nad yw'r briodferch a/neu’r priodfab yn fyddar ond eu bod wedi gwahodd ffrindiau byddar sydd angen dehonglwr, mae’n rhesymol gofyn am gyfraniad tuag at gost dehonglwr.
Gill Behenna
Cwestiynau cyffredin
Faint fydd e’n gostio?
Mae’n anodd ateb hyn gan fod y rhan fwyaf o ddehonglwyr yn weithwyr llawrydd felly mae eu ffioedd yn amrywio. Yn 2015, roedd dehonglwyr yn codi £30 yr awr ar gyfartaledd yn genedlaethol ond dylid cofio y bydd gan y rhan fwyaf o ddehonglwyr isafswm ffi galw allan sy’n gyfwerth â dwy neu dair awr. (ffynhonnell: Undeb Cenedlaethol Dehonglwyr Iaith Arwyddion www.nubsli.com/guidance/interpretingfees)
All rhai dehonglwyr ddarparu hyn am ddim i’r Eglwys?
Mae rhai dehonglwyr eisoes yn gweithio am ddim yn eu heglwysi lleol, o Sul i Sul, yn dehongli’r gwasanaethau. Bydd rhai yn gostwng eu ffioedd i waith yr Eglwys a rhai’n gweithio heb godi ffi weithiau, os yw’n nabod y person byddar sydd wedi marw, neu’r person byddar yn bersonol. Fodd bynnag, dylid cofio bod dehonglwyr llawrydd yn ddehonglwyr sydd wedi derbyn llawer o hyfforddiant ac maen nhw angen ennill bywoliaeth. Dylid eu trin yn deg. Dylai gwirfoddolwyr hyd yn oed gael costau teithio.
Mae ein gwasanaeth i gyd ar y sgrin/yn ysgrifenedig mewn taflen gwasanaeth/llyfr felly pam na all y person byddar ddim ond darllen y testun?
Mae cael deunydd ysgrifenedig/tafluniedig yn ddefnyddiol iawn i bobl fyddar. Fodd bynnag, nid Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf neu iaith ddewisol llawer o bobl a fyddan nhw ddim yn gallu ymroi i’r addoliad yn llawn drwy’r gair ysgrifenedig yn unig. Mae dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain yn rhoi mynediad i dôn llais, cywair, cynnwys emosiynol ac, wrth gwrs, i’r holl rannau o’r gwasanaeth nad ydyn nhw’n ysgrifenedig.
Mae gennym ni aelod sydd wedi bod yn astudio iaith arwyddion – pam na allan nhw ddarparu’r gwasanaeth?
Efallai y bydd hyn yn bosib – ond dylech sicrhau eu bod wedi dysgu’r Iaith Arwyddion i lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch) o leiaf ac wedi cael peth hyfforddiant fel dehonglwr. Mae priodasau ac angladdau’n defnyddio iaith gymhleth iawn ac mae dehonglwyr yn cael eu hyfforddi i ymdrin ag iaith o’r fath. Byddai’n dda pe bai’r defnyddiwr iaith arwyddion yn gallu dod i’r gwasanaeth i fod wrth law ar gyfer y bobl fyddar a allai fynychu – hyd yn oed os na fydd yn dehongli.
Yn y rhan fwyaf o achosion, dylid defnyddio dehonglwyr sydd wedi’u hyfforddi ac wedi cofrestru gyda Chofrestr Genedlaethol Gweithwyr Cyfathrebu Proffesiynol gyda Phobl Fyddar a Dall Fyddar (NRCPD).
Mae gennym ni Gaplan lleol ar gyfer pobl fyddar – a fyddai’n gallu darparu’r gwasanaeth dehongli?
Fel uchod, efallai. Fodd bynnag, nid oes gan rai Caplaniaid y sgiliau gofynnol ac mae rhai Caplaniaid yn fyddar eu hunain ac felly ni fyddan nhw’n gallu dehongli o bosibl. Dylech ofyn am eu cyngor gan y gallan nhw eich rhoi chi mewn cysylltiad â dehonglwr o bosibl hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu dehongli eu hunain.
Mae person byddar am roi teyrnged/darllen o’r Beibl yn y gwasanaeth. Sut byddai hynny’n gweithio?
Yn hawdd, mae’r dehonglwyr yn gweithio rhwng dwy iaith: Cymraeg/Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain, felly os oes rhywbeth yn cael ei gyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain gellir ei ddehongli i’r Gymraeg/Saesneg er budd aelodau’r gynulleidfa nad ydyn nhw’n arwyddo.
Ble mae dod o hyd i ddehonglwr?
Mae gan y ddau sefydliad yma gronfeydd data lle y gellir eu chwilio yn ôl rhanbarth neu god post.
Mae gan Signs of God www.signsofgod.org.uk gronfa ddata o ddehonglwyr Cristnogol sy’n gyfarwydd â gwasanaethau’r Eglwys. Maen nhw hefyd yn hapus i anfon ceisiadau dehongli at eu haelodau.