
Priodas
All cyplau ddefnyddio eu geiriau eu hunain ar gyfer eu haddunedau?
Na. Ni ellir newid yr addunedau am resymau cyfreithiol. Ar y pwynt priodol, gellir rhoi lle i gyplau gynnwys darlleniad neu hyd yn oed ddweud rhai pethau penodol wrth ei gilydd, ond ni cheir newid yr addunedau priodas swyddogol, a gweddill y gwasanaeth priodas, mewn unrhyw ffordd.
Angladd
All rhywun gadw llwch yr ymadawedig yn eu cartref am byth?
Os yw teulu’n dewis cadw llwch perthynas yn eu cartref am gyfnod amhenodol, does dim rheswm cyfreithiol i’w hatal rhag gwneud hynny. Yn fugeiliol, gallech annog y teulu i feddwl am ble i gladdu’r llwch.
Digwyddiadau bywyd
Ble mae prynu adnoddau Digwyddiadau Bywyd?
Mae adnoddau sydd wedi’u cynllunio a’u hargraffu’n broffesiynol wedi cael eu cynhyrchu er mwyn helpu i gefnogi gweinidogaeth priodasau, angladdau a gwasanaethau bedydd.
Trwy ein partneriaeth â Thîm Digwyddiadau Bywyd Eglwys Loegr, mae’n bleser gennym allu darparu ystod eang o adnoddau Cymraeg a Saesneg, sydd wedi’u cynllunio i ategu diwylliant Cymru a’n cyd-destun Cymreig.
Pan fyddwch chi’n archebu gan ddefnyddio cod post yng Nghymru, byddwch yn cael eich cyfeirio’n awtomatig i’r deunyddiau sydd wedi’u cymeradwyo gan yr Eglwys yng Nghymru. Yna, gofynnir i chi a ydych am archebu’ch deunyddiau yn Gymraeg neu Saesneg. Yr eithriad i hyn yw’r Llawlyfr Digwyddiadau Bywyd ar gyfer Cynghorau Plwyf Eglwysig sy’n cael ei argraffu’n ddwyieithog.
Os hoffech archebu adnoddau ewch i’r www.churchprinthub.org/wales